Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

tra ffyddlawn; nid oedd yn ymadroddwr llithrig, rhaid ydoedd ei gymell. Pan y deuai achos o ddisgyblaeth efe o bawb fyddai yn cael ei wthio i'r blaen; fifty-six fyddai pwysau Thomas Pritchard ar bob rhyw bechod neu fai. Dau swyddog ffyddlon ac ymroddgar, hefyd, oedd J. Jones, Pentreffudan, a John Jones, Llidiart y Porthmyn.

Yn 1830 bu adgyweiriad bychan ar gapel David Roberts, a rhaid mai bychan ydoedd, oherwydd nid oedd y draul ond £30; ac yn 1837 gwnaed y ty capel; yr amaethwyr yn cario y defnyddiau. Costiodd £180.

Yn y flwyddyn 1837 daeth y Parch. J. Ffoulkes i fyw i'r Bettws—J. Ffoulkes, Abergele a Liverpool, a Rhuthyn wedi hyny. Efe oedd y cyntaf fu yn byw yn nhy'r capel, a gwnaeth ei ran gyda'r achos tra fu yn y lle. Yn 1850—53 daeth John Roberts i fyw i'r Bettws, a da oedd gan y ddeadell fechan ei gael. Dyn hoffus a siriol ydoedd yntau, pregethwr cymeradwy gyda'r Corph, a chawn ei fod yn pregethu yn fynych yn y Bettws. Symudodd i fyw i Llandudno, lle y bu farw Mai 18, 1860.

Yn y flwyddyn 1856—57 bu adgyweiriad lled drwyadl ar gapel David Roberts—nid oedd ond ychydig o'r muriau yn aros. Yr oedd y draul yr aed iddi yn £600. Jones, Brynffanigl, ydoedd ysgogydd mawr y symudiad hwn, a gwnaeth ei ran hefyd yn well na neb o'r gymydogaeth y pryd hwnw. Agorwyd y capel hwn gan y Parchn. Henry Rees a John Philips, Bangor. Edward Owen, Bodrochwyn, ydoedd y swyddog hynaf, yn cael ei gynorthwyo gan John Jones, Pentreffudan. Gwnaeth Robert Roberts, Rhwng-y-ddwy-ffordd, ei ran fel swyddog am gyfnod, ond symudodd i fyw i gymydogaeth Llanelwy; David Davies, Wern Ciliau, a David Jones, tad Isaac ac Ed. Jones, oeddynt ddynion ffyddlon yn y cyfnod hwn; ac nid ail i neb o honynt oedd Morris Williams, y crydd; ei nodwedd arbenig ef oedd ffyddlondeb a phrydlondeb; ni byddai yn absenol na Sul na