Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dydd gwaith, a byddai bob amser yn brydlawn, a chai eraill hefyd wybod hyny. Cyhoeddai, un tro—"John Roberts i bregethu am 10 y Sul nesa'; ie, cofiwch, nid haner awr wedi deg, ond bydd yr oedfa yn dechreu ddeg o'r gloch."

Edward Owen oedd y mwyaf selog yn mhoethder Diwygiad '59; o bosibl mai efe oedd yr hynaf o'r swyddogion. Yr oedd amryw eraill yn dra ffyddlon yn y cyfnod hwn nad oeddynt swyddogion, sef Harri Jones, Cynant; John Jones, Dafarn Bara Ceirch; James Jones, Glyngloew; Thomas Jones, Pantyclyd; W. Williams, Ffynhonau; Peter Williams, Dolwen; a Joseph Williams, Rhwng-y-ddwy—ffordd. Fel swyddogion, yn nesaf daw Richard Lloyd, Dolwen; John Ffoulkes, Ty Capel (Llannefydd wedi hyny); David Jones, Gwyndy Uchaf (tad Isaac Jones, Tir hwch, Dyserth), a Thomas Hughes, Cefn Castell. Nodwedd arbenig Thomas Hughes ydoedd ei sel a'i frwdfrydedd gyda'r Ysgol Sabbothol. Mae yn amlwg na bu yr Ysgol Sul erioed yn fwy blodeuog yn y Bettws nag yn nyddiau Thomas Hughes, yn 1860—70. Cawn fod yn bresenol amryw weithiau yn y cyfnod hwn dros gant. Rhif yr eglwys yn 1864 ydoedd 51, a'r gynulleidfa ond 94, ac eto ceid yn yr Ysgol Sul weithiau gymaint a 120; o bosibl fod eraill nad oeddynt. yn rhestru eu hunain yn Fethodistiaid yr adeg hono yn do'd i Ysgol Sul y Methodistiaid. Yn 1870, mewn cyfnod diweddarach drachefn, cawn Edward Williams, Bryncar; David Owen, Pencefn; Thomas Williams, Cowper; a Samuel Williams, Penybryn. Yn y cyfnod hwn daeth gwr ieuanc o bregethwr o'r enw John Isaac Hughes, o Lanerchymedd, i fyw i'r Bettws, a symudodd oddiyma i'r America.

Yn 1861—63 cawn i'r Mri. Charles Jones a Robert Roberts, y ddau yn bregethwyr rheolaidd, dd'od yma, a buont yn gymhorth nid bychan i'r eglwys yn y lle. Bu y cyntaf farw Gorphenaf 16, 1867, a'r llall Medi 6, 1879, yn Ngholwyn Bay.