Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/55

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Jones i baentio y shop, a chael lwfio hyny o'r rhent y flwyddyn gyntaf. (4) Caed sylw ar ddyled y capel, chludo pregethwyr i Groesengan."

Y mae yn amlwg yr adeg hon fod yr eglwys a'r gynulleidfa yn graddol gynyddu, yn hynod araf mae'n wir, eto cynyddu yr oeddynt. Yn 1880 cawn fod yr eglwys yn rhifo 69, a'r gynulleidfa yn 100. Swyddogion y cyfnod hwn oeddynt Samuel Williams, David Hughes, Cwymp; Hugh Parry, Peniarth. Yn ddiweddarach dewiswyd Henry Lloyd, Dolwen (Gwyndy, Llysfaen, yn bresenol); John Hughes. Sirior Goch; a Hugh Jones, Bod Owen; a'r rhai olaf a ddaethant i mewn i'r swyddogaeth ydynt Robert Davies, Rhwng-y-ddwy ffordd; ac Edward Owen, Nant yr efail (yr hwn a symudodd i Gapel Curig yn 1903).

Diau na ddylai llettygarwch y cofnodau hyn fyned heibio heb eu crybwyll. "Nac anghofiwch lettygarwch." Mewn un cyfnod, y cyfnod boreuaf oll, pan fyddai pregethwr yn y Bettws yn yr hwyr, neu drwy y dydd Sabboth, byddai yn llettya yn Bodrochwyn gyda David Roberts, ac yn achlysurol gyda Mrs. Ffoulkes, Sirior Goch. Os yn y prydnawn yn unig y byddai y pregethwr yn y Bettws, byddai yn cael cwpanaid o de gydag Evan a Margaret Evans, yn y Court Bach. Brydiau eraill elont gyda Morris Williams, Bwlch Gwynt, a chyda'r hen langciau i Dalarn Bara Ceirch, ar eu taith i Gefn Coch. Un amlwg, hefyd, mewn llettygarwch, ydoedd Mrs. Jones, Brynffanigl, yn enwedig am y cyfnod y bu y Bettws a Llysfaen yn daith Sabboth. Anrhegodd yr eglwys, hefyd, â llestri cymundeb, y rhai sydd yn aros ac yn cael eu defnyddio hyd heddyw. Lletty pregethwyr am gyfnod maith ydoedd Dolwen hefyd, o ddyddiau Peter Williams (tad y Parch. John Williams, Rhyl), a Richard Lloyd a'r teulu, hyd o fewn ychydig o flynyddoedd yn ol. Peniarth Bach hefyd. Hugh Parry a'r teulu, sydd a'u ty wedi bod yn agored i groesawu y fforddolion. Y tadau, pa