Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

le maent hwy? Ychydig o amser sydd yn newid cartrefi, gobeithiwn nad aiff caredigrwydd a llettygarwch y rhai hyn oll yn ofer, "Yn gymaint a gwneuthur o honoch i un o'r rhai bychain hyn, i mi y gwnaethoch."

Y gweinidog cyntaf a alwyd yn ffurfiol i'r Bettws ydoedd y Parch. D. L. Owen, yn 1892, a bu yn gweithio yn egniol yn mhob cylch, ac yn dra chymeradwy fel bugail, ac yn ymwelydd cyson â'r aelodau. Nid oedd yn gryf o ran iechyd, a symudodd i Rhyl yn 1894.

Yn y flwyddyn 1897 daeth y Parch. O. Foulkes i gymeryd gofal yr eglwys. Yn y flwyddyn hon, hefyd, y daethpwyd i'r penderfyniad i wneyd capel newydd. Ymgynghorwyd a'r Parch. T. Parry, Colwyn Bay, ac aed ymlaen o un galon at y gorchwyl. Y cynllunydd ydoedd Mr. Parry; yr adeiladydd ydoedd Mr. J. D. B. Jones, Colwyn Bay, am y pris o £1,150, yn cynwys y capel a'r ysgoldy, ond nid oedd y lampau nac eisteddleoedd yr ysgoldy i mewn. Yr oedd yr amaethwyr i gario yr oll o'r defnyddiau, a gwnaeth pawb eu rhan yn ganmoladwy. Ysgrifenydd y mudiad hwn ydoedd Mr. H. Lloyd, Dolwen; trysorydd, Mr. J. Hughes, Sirior. Aeth pob peth ymlaen yn ddi-brofedigaeth i bawb, a thuag at ddwyn y gost caed addewidion cyffredinol yn ol fel yr oedd y llaw yn gallu cyrhaedd. Yr oedd y rhoddion hyn yn amrywio o £100 i lawr i dair ceiniog. Rhwymedig ydym hefyd i grybwyll am roddion haelionus Mr. Robert Davies, Bodlondeb, Menai Bridge. Agorwyd y capel hwn yn Mehefin, 1898. Yr oedd y Cyfarfod Misol yn cael ei gynal ynddo yr un pryd. Pregethwyd gan y Parchn. Jonathan Jones, Llanelwy; R. T. Roberts, M.A., D.D., Racine, America, a J. J. Roberts (Iolo Caernarfon), Porthmadog. Gwneir casgliad at y ddyled bob boreu Sabboth, ac y mae hwn wedi bod yn gymorth nid bychan. Erbyn hyn y mae addewidion y pum' mlynedd o'r bron wedi eu talu. Cyfrifir yr oll o'r costau ynglyn a'r capel presenol