Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o ddeutu £1,400, yn cynwys yr oll o'r cludo a'r dodrefnu, &c. Y mae genym yn bresenol dair ffynhonell i'w ddi-ddyledu: Casgliad boreu Sabboth, arian yr eisteddleoedd, ac elw cyfarfod llenyddol dydd Calan; ac y mae y tair ffynhonell hyn wedi sicrhau yn ystod y blynyddoedd diweddaf o ddeutu deugain punt. O herwydd yr ymdrech diflino sydd wedi bod ynghorph yr wyth mlynedd diweddaf, y mae y ddyled wedi ei thynu i lawr i £300. Amser yn ol rhoddwyd gan Mr. a Mrs. Daniel a Catherine Jones y swm o £160 at wasanaeth yr achos yn y Bettws; can' punt gan y naill a thrigain gan y llall. Y mae llogau y can' punt, rhodd Mr. D. Jones, i'w defnyddio at gynhaliaeth y weinidogaeth; a thrigain Mrs. Jones i'w rhanu, deugain punt o honynt i'w defnyddio fel yr eiddo ei phriod, ac ugain tuag at dalu dyled y capel. Y mae yr arian hyn ar y capel newydd presenol. Yn y flwyddyn 1903. gadawodd y diweddar Mr. Evan Hughes, Glanywern, yn ei ewyllys, y swm o £33 35. 3c. tuag at y weinidogaeth.

Cofrestrwyd y capel i weinyddu priodasau ynddo yn 1901. Y ddau bâr ieuanc a unwyd mewn addoldy Ymneillduol yn mhlwyf Bettws, perthynol i'r Methodistiaid, ac, o bossibl, perthynol i unrhyw enwad Ymneillduol arall, ydoedd y Parch. Owen Foulkes, Minafon, a Miss Emma Parry, Peniarth; a Mr. David Parry, Hendre, â Miss Sarah M. Salisbury, Post Office. Y mae yn ffaith ryfedd i'w chofnodi na phriodwyd ond y rhai uchod o fewn y cyfnod o gant a thair o flynyddoedd mewn addoldy Ymneillduol yn y plwyf. Y rheswm, yn ddiau, ydoedd nad oedd yr un capel wedi ei gofrestru hyd yn ddiweddar.

Trwy y Diwygiad yn 1904 a 5 cafodd ein pobl ieuanc ymweliad neillduol. Chwanegwyd at eu nifer, a deffrowyd hwy i weithgarwch nas gwelwyd ei gyffelyb yma er's o leiaf ddeugain mlynedd. Y mae Arholiad Sirol yr Ysgol Sabbothol yn enill nerth o flwyddyn i flwyddyn; y cym-