Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/6

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

un o bregethwyr y Methodistiaid Calfinaidd oedd, ac mai yn y Tanyard sydd yn bod eto, ar ochr ddwyreiniol Water Street, y cynhaliwyd yr odfa. Nid yw yn hysbys gan bwy nac yn mha le y pregethwyd gyntaf yn y gymydogaeth, chwaith. Sonir yn Methodistiaeth Cymru (iii. 272) am ymweliad o eiddo y Parch. William Davies, Castellnedd, a'r Bettws, yr hwn a ddaeth yno ar daer wahoddiad dau wr ieuanc o'r lle hwnw, sef Edward Evans a Copner Williams —yr olaf y cyfreithiwr wedi hyny o Ddinbych—y rhai a aethant i Gymdeithasfa y Bala yn bwrpasol i geisio cyhoeddiadau pregethwyr i'r ardaloedd hyn. Ond er iddo ddyfod, rhwystrwyd Mr. Davies i bregethu gan waith perchenogion tâs o frigau coed y safai ef yn ei chysgod, yn ceisio ei dymchwel arno, a thrwy hyny gythryblu ei feddwl yn ormod iddo fyned rhagddo. Dywedir hefyd i'r ddau wr ieuanc gael addewidion gan amryw eraill, ond nid oes gwybodaeth pwy oeddynt na pha bryd y daethant. Rhaid fod ymweliad Mr. Davies rywbryd wedi iddo ymadael â'r Eglwys Sefydledig, yr hyn a wnaeth tua 1773 neu 1774, a chyn 1781, oblegid y flwyddyn hono y bu ef farw. Crybwyllir yn Nghofiant y Parch. John Davies, Nantglyn, y bu Mr. Davies yn yr ardaloedd hyn tua 1779 neu 1780, pryd y pregethai ar y geiriau. "Yr hwn a osododd Duw yn iawn," &c., a'r pryd y cafodd efe "gymorth i roddi ei hun i'r Arglwydd i fyw a marw, ac am byth." Y tebyg yw mai dyna yr adeg yr ymwelodd a'r Bettws hefyd. Y mae sicrwydd modd bynag, y dechreuwyd pregethu gyda mwy neu lai o reoleidd-dra yn ffermdy y Nant Fawr tua'r adeg hono. Y mae yn amlwg y camarweiniwyd awdwr Methodistiaeth Cymru wrth ei hysbysu mai yn y Bryngwyn—ty bychan tua haner y ffordd rhwng Abergele a'r Bettws—y pregethwyd, ac yr arferid pregethu gyntaf yn yr ardaloedd hyn. Fel arall y dywedid wrth rai sydd eto yn fyw gan hen bobl oedd yn cofio hyny. "Yr oedd y seiat yn y Bryngwyn, a'r pregethu yn y Nant Fawr,"