Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

LLYSFAEN.

GAN MR. HENRY LLOYD, GWYNDY, GYDA CHWANEGIADAU GAN Y GOLYGYDD.

—————————————

CEIR ychydig o hanes dechreuad yr achos yn y lle hwn yn y Drysorfa am 1837, t.d. 26, wedi ei ysgrifenu gan un a eilw ei hun "Glan Dulas." Ond y mae cyfnod maith wedi hyny nad oes fanylion ar gael am dano, gan fod y rhai sydd a'u hadgof yn cyraedd mor bell yn ol, wedi myned yn ychydig iawn eu nifer. Yn y cofnodion hyn, gwnawn ddefnydd o'r adroddiad y cyfeiriwyd ato hyd y mae yn myned, yn nghyd a'r hyn a gasglwyd o adroddiadau hwn ac arall, am flynyddoedd diweddarach.

"Ary 12fed dydd o fis Tachwedd, 1834," medd yr ysgrif yn y Drysorfa, "agorwyd capel Bethel, plwyf Llysfaen, Sir Gaernarfon, ond perthynol i Gyfarfod Misol Sir Ddinbych. Dyma y capel cyntaf a adeiladodd y Trefnyddion Calfinaidd yn y lle hwn. Dywedir fod rhyw son am gapel wedi bod yma er's blynyddau yn ol; feallai cyn i Mr. Thomas Edwards ymadael o'i fro enedigol i Liverpool [yr hyn a fu yn 1785, neu 1786]. Yr odfa gyntaf a ellais gael hanes am dani yn yr ardal hon ydoedd er's yn nghylch deugain mlynedd yn ol [1794], yn ymyl y ffordd yn agos i Landulas. Mr. Evan Lewis, Mochdre, oedd yn pregethu. Ar ol y bregeth, eisteddodd i lawr, ac eisteddodd y gwrandawyr o'i amgylch, a bu yn dywedyd ychydig wed'yn wrthynt o'i eistedd....

Bu pregethu ar amserau, ac Ysgol Sabbothol hefyd, yn cael eu cynal wedi hyn yn yr ardal oddiamgylch mewn amryw fanau. Tua'r flwyddyn 1811 y dechreuwyd pregethu ac Ysgol Sabbothol yn sefydlog genym yn y gymydogaeth hon, mewn lle a elwir y Geuffos, plwyf Llanddulas; ac yn Bryn y Frân, plwyf Llysfaen. Wedi hyny bu pregethu hefyd dros dro mewn lle a elwir Rhyd y foel, ac yn Cefn y castell. Ar ol hyny, symudwyd oddiyno i Ben y cefn, yn y cwr arall i blwyf Llanddulas. Bu Ysgol Sul a phregethu achlysurol am ysbaid yn Mhlas Llanelian hefyd. Fel