Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hyn y byddai yr achos crefyddol yn ein plith yn cael ei symud trwy ryw achlysuron, o'r naill fan i'r llall, fel y babell gynt yn yr anialwch, hyd oni ddangosodd yr Arglwydd y lle a ddewisodd Efe i osod ei enw ynddo, a hyny mewn modd annisgwyliadwy, trwy symudiad teulu o Gonwy i Lysfaen i breswylio, y rhai a gawsant addewid am le i adeiladu capel, Gwnaed y peth yn hysbys i Gyfarfod Misol y Sir. Yna anfonwyd dau oddiamgylch i ofyn boddlonrwydd y gymydogaeth, ac i edrych pa gyn- orthwy a geid at y gwaith. Wedi gweled en parodrwydd, pwrcaswyd y tir, 20 llath o hyd a 12 o led, yn etifeddiaeth oesol i Gorff y Trefnyddion Calfinaidd.

Tra y buwyd yn adeiladu y capel, dechreuwyd pregethu eilwaith yn Mryn y Frân, ac yna yn Nhy'n y coed, am fod y ty yn helaethach. Cyf. lawnodd y cymydogion eu haddewidion i gludo y defnyddiau yn rhad at y gwaith, y tu hwnt i'n disgwyliad. Maint y capel yw 11 llath wrth 9 y tu newn, yn cynwys 33 o eisteddlenedd. Y cyntaf a bregethodd ynddo oedd Mr. David Elias, Pentraeth, Mon, ar Zech. iv. 6, "Nid trwy lu ac nid trwy nerth, ond trwy fy ysbryd, medd Arglwydd y lluoedd."

Tachwedd 11eg a'r 12fed, pryd yr agorwyd y capel, pregethodd y brodyr parchedig canlynol: Nos Fawrth, John Roberts, Brynllwyni, ar Preg. v. I, a Moses Parry, Dinbych, ar 1 Cor. iii. 9. Dydd Mercher, am 10, William Morris, Carmel [Rhuddlan wedi hyny], ar Act. v. 31, a William Jones, Rhuddlan, ar Heb. ii. 3. Am 2, William Morris ar 1 Ioan i. 7. a Daniel Jones, Llanllechyd, ar 1 Bren. ix. 3. Am 6, David Pritchard [Pentir], Sir Gaernarfon, ar Matthew xi. 5, a Daniel Jones ar Act. ii. 37. Cawsom yr hin yn hyfryd, ac yr oedd y gwrandawyr yn lliosog iawn, ac arwyddion fod yr Arglwydd yn gwrando ein gweddiau a'n deisyfiadau; a chysegrwyd y ty yma a adeiladasom, i osod ei enw Ef ynddo byth, &c. Gwel testyn Mr. D. Jones, yn odfa y prydnawn.

Y Sabboth canlynol, symudodd yr ysgol o Ben y cefn i'r capel. Ei nifer yn bresenol [sef yn 1836] ydyw o 60 i 70. Yr ydym wrth y gorchwyl o adeiladu ty a stabl wrth y capel, yr hyn fydd yn ddiau yn dra chyfleus yn y lle hwn pan ei gorphenir. Mae yma hefyd gynulleidfa fechan [eglwys?] ynghylch 20 o nifer, heblaw plant—rhai wedi dyfod o'r eglwysi cymydogaethol, ac ambell un o'r newydd wedi dyfod atom, er tystiolaeth nad ydyw llafur gweision yr Arglwydd yn hollol ofer ac aneffeithiol yn ein plith. Yr ydym wedi ein neillduo yn gangen eglwys i gynal yr achos ar ein traul ein hunain, mewn undeb a thaith Sabbothol y Bettws a Llanelian. Er fod ein nifer yn fychan, a'r achos yn isel a gwael, mae yn ymddangos yn hynod o siriol, er cyfarfod â gwrthwynebiadau o amryw fath. Yr hyn sydd yn tarfu y gwrandawyr fwyaf, ac yn ein digaloni