Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/63

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yma i fyw i Ty isa'r Gell; ac yn flaenor yn Cefn Coch y bu farw yn 1859.

Un arall oedd Hugh Williams, Brynydefaid, ar ol hyny Bodhyfryd. Ymddengys ei fod ef wedi bod yn swyddog eglwysig ac yn flaenor y gân yma am lawer o flynyddoedd. Gwr tawel, yn dangos cryn lawer o allu meddyliol, ac ôl darllen arno, ydoedd ef. Ystyrid ef yn wr o brofiad a barn dda. Ni chafodd fanteision addysg bore oes; ond trwy ei yni a'i ymroad, llwyddodd i ddysgu cyfundrefn y Tonic Sol-ffa pan y daeth gyntaf i arferiad yn y cylchoedd hyn, a hyny pan ydoedd ef wedi myned i hen ddyddiau. Yr oedd yn gerddor gwell na'r cyffredin yn ei ddydd. Gwasanaethodd yr achos gyda llawer o ffyddlondeb a gweithgarwch. Bu farw yn y flwyddyn 1877, a chladdwyd ef yn mynwent y plwyf.

Y nesaf o'r blaenoriaid oedd John Hughes, Pant y Clyd, wedi hyny o Ben y Cefn. Brawd ffyddlon gyda'r achos fu yntau. Er ei fod yn byw ymhell o'r capel, byddai bron bob amser yn bresenol yn moddion y Sabboth a'r wythnos. Nid oedd ei ddoniau yn ddisglaer; ac yn y cywair lleddf y byddai fel rheol o ran ei brofiad ysbrydol. Eto yr oedd iddo "air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun." Yr oedd yn gyfranwr cyson a hael hyd eithaf ei allu at yr achos, a dangosai lawer o ofal drosto. Bu farw yn 1884, yn 72 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn y Bettws. Erys adgofion serchus am dano

Un arall o'r blaenoriaid a fu yn cydoesi â'r tri diweddaf a enwyd oedd David Jones, Pentre-du,—gwr tawel, dirodres. Er nad oedd wedi ei gynysgaeddu â doniau gwych, eto, meddai allu hapus i arwain yn y cyfarfodydd eglwysig, a theimlai y rhai fyddai yn bresenol mai hawdd oedd adrodd eu profiad iddo, gan mor gartrefol y teimlid gydag ef. Fel rheol, byddai ei brofiad crefyddol ef ei hun yn obeithiol. Enillodd iddo ei hun "radd dda" fel swyddog eglwysig.