dda o lyfrau crefyddol, a gwnai ddefnydd da o honynt. Hynodid ef gan barodrwydd a phertrwydd lawer. Bu farw yn 1887, a chladdwyd ef yn mynwent y plwyf. Merch iddo ef yw Miss Hughes, sydd yn awr yn cadw ty'r capel. Mae hithau yn un o blant yr eglwys hon, ac yn hysbys am ei mawr sel dros yr achos.
Un arall oedd David Jones, Ty isa'. Daeth yma o Lanelian oddeutu 1883. Heblaw bod yn flaenor, yr oedd hefyd yn arweinydd y gân. Symudodd i Golwyn oddeutu 1887.
Y blaenoriaid a alwyd ac sydd eto yn fyw ydynt y rhai canlynol:—
Yn 1887, galwyd pedwar o frodyr, sef William Parry, Ysgubor newydd (yn awr Ty gwyn); John Parry, Shop newydd: Robert Parry, Brynonen (symudodd ef i'r America yn 1890); a Hugh Hughes, Glasfryn (symudodd yntau i Golwyn yn 1897).
Yn 1895, dewiswyd Hugh Roberts, Brynonen, ac Owen Parry Jones, Penygeuffos, yr hwn a symudodd i ardal Abergele yn 1900. Ac yn yr un flwyddyn, dewiswyd ei frawd, Wm. Parry Jones, a Henry Lloyd, Gwyndy. Buasai y diweddaf yn flaenor yn y Bettws am flynyddau lawer cyn dyfod yma.
GWEINIDOGION.
Yn 1877, daeth y Parch. Thomas Hughes yma yn weinidog i'r daith. Efe oedd y bugail cyntaf a fu yma, a gwnaeth waith da. Derbyniodd alwad o Vale Road, Rhyl, a symudodd yno yn 1882.
Yn 1891, daeth y Parch. Evan Hughes yma hyd 1894. Cafodd alwad oddiyma i Talybont. Yna y Parch. John Evans, o 1895 hyd 1899. Cafodd yntau alwad i London Road, Caergybi.
Yn 1899, daeth y Parch. Moses Roberts, a chafodd ei alw oddiyma i Spennymor yn 1903. Y Parch. W. Wilson