Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/66

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Roberts, o Felinheli, ddaeth yma yn 1905, sydd yn llafurio yma yn bresenol.

Heblaw y gweinidogion hyn, bu y Parch. Edward Roberts. (Llanfairfechan gynt), yn aelod yma am ysbaid, ond yn byw yn Ngholwyn Bay.

Yn y bylchau, pryd na byddai yma weinidog, cawn fod y Parchn. Thomas Parry, Colwyn Bay (1885), D. L. Owen, Bettws (1893) wedi bod yma yn cynal cyfarfodydd eglwysig. Er pan y sefydlwyd yr achos yn Llysfaen, bu y cyfnewidiadau canlynol ar y daith Sabbothol. Ar y cyntaf, yr oedd Bettws, Llanelian, a Llysfaen yn daith. Wedi adeiladu capel Colwyn, yn 1862. Bettws a Llysfaen oedd y daith hyd 1874. O hyny hyd yn bresenol, Llysfaen a Llanddulas, ac yn ofalaeth fugeiliol.

YR ADGYWEIRIADAU.

Yn y flwyddyn 1877 y cawn hanes yr adgyweiriad cyntaf o bwys fu ar y capel ar ol ei adeiladu. Y pryd hyny y rhoddwyd nenfwd (ceiling) ynddo, y paentiwyd yr eisteddleoedd, y gostyngwyd y pulpud, ac y rhoed llawr newydd yn y lle nad oedd eisteddleoedd. Y draul oddeutu £55.

Drachefn, yn 1891, bu adgyweiriad helaethach, dan arolygiaeth y Parch. Thomas Parry, Colwyn Bay, a Mr. Thomas Jones, asiedydd, Llysfaen, yn gwneyd y gwaith. Yr oedd i'r hen gapel ddau ddrws yn gwynebu y ffordd, a'r pulpud rhwng y ddau. Yr eisteddleoedd yn codi o ris i ris, a'r sêt dan y pulpud yn cael ei hamgylchu â rhai llai, gyda meinciau rhyddion yn nghanol y llawr. Ond yn yr adgyweiriad yma, cauwyd un o'r drysau,—y nesaf at y ty—a dodwyd y pulpud yn y pen hwnw. Rhoed ynddo bulpud ac eisteddleoedd newyddion. Porth y tuallan i'r drws, a mur newydd rhyngddo â'r ffordd. Traul oddeutu 150.

Yn Hydref, 1907, bu adgyweiriad ac ychwanegiad at yr adeiladau. Cafwyd darn o dir yn rhodd gan yr olaf o'r