Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rywun o brif bregethwyr y Cyfundeb. Hwyrach y dylasem fod wedi dweyd cyn hyn mai y Parchn. Henry Rees a John Hughes (hynaf), Liverpool, fu yn gweinyddu yn agoriad y capel hwn, pryd y traddodai Mr. Rees ei bregeth ryfeddol ar "werthfawr waed Crist," gydag arddeliad neillduol. Ac heblaw hyny, os un odfa a gaem, bu hyn yn achlysur i godi tô o ddarllenwyr a gweddiwyr cyhoeddus na chawsid eu cyffelyb oni buasai yr angenrhaid a osodid arnynt i ymbarotoi trwy fyfyrdod ac ymarferiad. Dau amlwg ymysg y cyfryw oedd David Davies, y Gadlas, a David Hughes, y Cwymp.

Yn 1874, modd bynag, gwnaed cyfnewidiad yn nhrefn y daith. Yr oeddys er's tro cyn hyny yn cael pregethwr i fod yma yn unig, tuag un Sabboth o bob mis. Ond yn y flwyddyn a nodwyd, trwy ganiatad a chynorthwy arianol y Cyfarfod Misol, anturiwyd i ymysgar oddiwrth Abergele, ac ymgysylltu yn daith gyda Llysfaen, fel ag i gael dwy odfa bob yn ail Sabboth. Yn daith gyda'r Bettws y buasai Llysfaen hyd hyny, ac yn cael un odfa bob Sabboth gan y sawl fyddai yn pregethu yno. Yr oedd amryw deuluoedd parchus yn perthyn i Beulah yr adeg yma, ac agorodd saith o honynt eu drysau ar unwaith i letya y pregethwyr—pob teulu ei fis. Yn wir, yr oedd yr achos yn ei holl ranau y blynyddoedd hyny yn dra lewyrchus. Trwy ymroad a medr Mr. J. T. Jones, yn awr o Bodaled, Rhyl, yr hwn yn wr ieuanc gweithgar oedd yn byw yma ar y pryd. Beulah, Llanddulas, oedd un o'r lleoedd cyntaf os nad y cyntaf oll yn yr amgylchoedd hyn i ymgymeryd ag astudio cerddoriaeth yn ol cyfundrefn y Tonic Sol—ffa. A thrwy y symbyliad a dderbyniwyd oddiwrth ieuenctyd y lle hwn, y cymhellwyd Llysfaen, Colwyn a'r Bettws i wneyd yr un peth.

Naturiol gan hyny yw gofyn, Pa fodd na buasai yr achos