Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn y lle yma yn dal ei ffordd ac yn llwyddo yn amgenach? Yr ateb yw, yn ol pob golwg ddynol, mai bychandra y capel, ac o'r diwedd ei stad adfeiliedig, oedd y prif os nad yr unig achosion. Eisteddleoedd i bedwar ugain yn unig oedd ynddo ar y cyntaf. Meddyliwyd am ei helaethu mor gynar a 1859, ymhen deg mlynedd wedi ei adeiladu; ac ymgymerodd pedair merch ieuanc a theithio yr ardaloedd o afon Clwyd hyd afon Conwy, a phellach na hyny, i gasglu at yr amcan. Diau na raid ymesgusodi am gadw eu henwau rhag myned ar goll—Miss Caroline Hughes (Mrs. William Williams, Ffynhonau, Abergele), a'i chwaer Miss. Emma Hughes (Mrs. Thomas Jones, Esmore House, Abergele), merched Mr. Robert Hughes, y Lodge; a Miss Jane Hughes (Mrs. Roberts, Llysfaen). llysferch Mr. Robert Jones, un o'r blaenoriaid, a Miss Ellen Williams (Mrs. Robert Davies), chwaer i'r blaenor adnabyddus Mr. Thomas Williams, a fu farw yn ddiweddar; a llwyddasant i gasglu swm sylweddol. Ond oherwydd anhawsder gyda'r brydles ac hwyrach rai pethau eraill, ni wnaed dim yn rhagor y pryd hwnw gyda'r capel na gosod un cor yn ychwaneg ynddo. Syn yw adrodd y buwyd am ddeugain mlynedd neu fwy yn methu cael tir i adeiladu capel newydd arno. O'r diwedd, modd bynag, yn 1904 cafwyd prydles am gan' mlynedd ond un, ar y tir y safai yr hen adeilad arno, gyda chwanegiad ato—y ground rent yn bum' punt y flwyddyn. Erbyn hyn y mae addoldy hardd, cadarn a chyfleus, gyda thy ac ystafell i gynal Ysgol Sabbothol a chyfarfodydd eraill yn ystod yr wythnos wedi eu codi. y rhai a gostiodd yn agos i £1,600 Cynhaliwyd y cyfarfod agoriadol Gorphenaf y 6ed a'r 7fed, 1905. Pregethwyd ynddo y waith gyntaf nos Iau y 6ed, gan y Parch. Francis Jones, Abergele, a thranoeth gan y Parchn. Robert Williams. Tywyn; John Roberts, Warren Road. Rhyl, a D. Tecwyn Evans, B.A. (W).