Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/72

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y blaenoriaid a fu yma o ddechreuad yr achos hyd yn awr yw y rhai canlynol:—

YMADAWEDIG:

Mr. Robert Roberts, y Geuffos.
John Hughes, Ffordd Haiarn.
John Jones, Bryngwyn.
Robert Jones, Y Waen.
David Davies, Gadlas.
William Hughes, Bronydon.
Thomas Williams, Bronydon, 1873—1907.

Mr. Thomas Williams, yr olaf ar y rhestr uchod, yn ddiau a wnaeth fwyaf o wasanaeth i'r eglwys ac i'r ardal hon o neb o honynt. Yr oedd amlder y swyddi cyhoeddus a ddaliai yn brawf o'r ymddiriedaeth lwyr a feddai ei gymydogion ynddo fel gwladwr, ac ni siomwyd hwynt erioed ganddo. Fel crefyddwr, bu yn flaenor yn eglwys Beulah am bedair blynedd ar ddeg ar hugain, ac yn arweinydd y gân am o leiaf bymtheg ar hugain. Efe hefyd oedd ysgrifenydd yr eglwys er's blynyddau lawer, ac y mae trefnusrwydd y cyfrifon a gedwid ganddo o flwyddyn i flwyddyn o dderbyniadau a thaliadau yr eglwys, ei gofnodion destlus o'r gohebiaethau, &c., ynglyn ag adeiladaeth y capel newydd, gan gynwys y copi o'r brydles, yn ddrych lafur, gofal, medr a doethineb tra eithriadol. Colled anrhaethol i'r eglwys fechan hon, ac i ardal Llanddulas yn gyffredinol oedd marwolaeth gwr o gymeriad mor gyflawn a phur. Cymerodd hyny le yn y Royal Infirmary, Liverpool, nos Fawrth, Rhagfyr 10fed, 1907, ar ol bod dan driniaeth lawfeddygol, a chladdwyd ef yn mynwent y plwyf, Llanddulas, y Sadwrn dilynol, ynghanol arwyddion o alar diffuant.