Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/74

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PEN Y BRYN LLWYNI A'R MORFA.

GAN Y PARCH. JONATHAN JONES, LLANELWY.

FE ddeallir mai yr un achos sydd yn bresenol yn y Morfa ag oedd gynt yn Mhenybryn. Saif Penybryn tua milldir a haner yn nes i Lansantsior ac Abergele na'r Morfa. Mae capel y Morfa yn sefyll ar y tafod o Sir Fflint sydd yn ymestyn o Ruddlan tua Kinmel, lle y preswylia Arglwydd Raglaw y Sir hono.

Y mae yn amlwg ddarfod i'r Methodistiaid ddechreu ymsefydlu yn ardal Penybryn tua dechreu y ganrif ddiweddaf. os nad yn niwedd yr un flaenorol. Ymddengys y dechreuodd y gwaith yma tua'r un adeg ag y cychwynodd yn Abergele, yr hwn le sydd tua thair milldir yn nghyfeiriad y gorllewin ar un llaw, ac hefyd tua'r un amser ag y dechreuodd Methodistiaeth yn Nghefn Meiriadog, yr hwn sydd le tua thair milldir i gyfeiriad y de o Benybryn ar y llaw arall. Fel mewn llawer o ardaloedd eraill yn y wlad, dywedir mai mewn ysgubor y cychwynodd yr Ysgol Sabbothol a chyfarfodydd crefyddol eraill yma gyntaf. Mae yn debyg hefyd y cynhelid rhai o'r cyfarfodydd mewn tai cyfagos pan fyddai hyny yn gyfleus a dymunol. Yr oedd yr ysgubor hono yn agos i'r fan lle, ar ol hyny, yr adeiladwyd capel Penybryn. Safai y capel hwn ar dir sydd yn awr yn faes agored, yn agos i'r tai newyddion a elwir Terfyn Cottages sydd ar fin y ffordd rhwng Bolelwydden ac Abergele. Nid oes unrhyw olion o hono i'w gweled erbyn hyn. Daeth y brydles ar yr hon yr oedd wedi ei adeiladu i ben tua'r fwyddyn 1864, a thynwyd ef i lawr yn ddibetrus gan