Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/75

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

berchenog etifeddiaeth Kinmel. Nid ydym yn gwybod beth oedd hyd y brydles, ac felly nis gallwn wybod yn fanwl pa bryd yr adeiladwyd y capel. Credwn i hyny gymeryd lle yn bur agos i ddechreu y ganrif ddiweddaf, o leiaf yn ystod yr ugain mlynedd cyntaf o honi, os nad cyn hyny. Yr oedd wedi ei adeiladu o flaen hen gapel y Tywyn, a elwid "Salem" neu "Miller's Cottage." Yr oedd yn adeilad bychan destlus, yn cynwys lle i tua 120 i eistedd, a dau ddrws yn ei ochr i fyned i mewn iddo, a'r pulpud rhwng y ddau ddrws, yn ol cynllun cyffredin capelau y dyddiau hyny. Cynwysai ddwy sedd ysgwar i gantorion wrth y set fawr, y naill i feibion a'r llall i ferched, a lle yn mhob un honynt i ddeg o bersonau. Codwyd ty capel hefyd yn gysylltiedig ag ef. Bu cartref yr achos crefyddol, fel y credwn, yn y capel bychan hwn am haner cant neu driugain o flynyddoedd, os nad am ragor na hyny. Gan nad yw y brydles, hyd y gwyddom, ar gael erbyn hyn, ac nad oes neb bellach yn fyw sydd yn cofio yn ddigon pell yn ol, nis gallwn fod yn fanwl am amser ei adeiladiad, nac am y nifer o flynyddoedd y parhaodd.

Y mae cyflawnder o dystiolaethau y bu yr eglwys fechan yn Mhenybryn o wasanaeth mawr a sylweddol i grefydd a moesoldeb yn y fro am faith flynyddoedd. Y blaenoriaid cyntaf y gallwn gael gafael ar eu henwau, a'r rhai cyntaf a fu yn y lle o gwbl, fel y credir, oedd y rhai canlynol:—

JOHN JONES, Y LLETY.—Er nad oedd ond un cyffredin ei ddawn a'i amgylchiadau, eto meddai dduwioldeb diamheuol, a bu o ddefnydd mawr i'r achos, a bu farw mewn tangnefedd.

Jous HUGHES, PENYFFRIDD.—yr hwn a fu yn ffyddlon gyda'r achos am flynyddoedd lawer, hyd ei farwolaeth. Wedi hyny galwyd WILLIAM HUGHES, ei fab, o'r un lle i'r swydd, a gwasanaethodd yntau gydag ymroddiad am