Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

amser maith. Cyfarfyddodd ef à damwain a derfynodd yn ei farwolaeth, er gofid mawr i'w deulu yn Mhenyffridd, ac er colled bwysig i'r eglwys a'r achos yn Mhenybryn. "Yr un ddamwain a ddigwydd i'r cyfiawn ac i'r drygionus."

Bu JOHN JONES, Y SHOP, LLANSANTSIOR, hefyd yma yn flaenor am dymor maith. Buasai ef yn un o ysgolheigion cyntaf y Parch. Thomas Lloyd, yr athraw enwog, yn Abergele. Arferai John Jones ymffrostio llawer yn ei hen athraw a'i ysgol, ac yn enwedig yn y ffaith ei fod ef yn un o'r rhai cyntaf o'r disgyblion. Mr. Lloyd hefyd oedd yn y seiat yn Mhenybryn y noson y dewiswyd John Jones yn flaenor, a choleddai yr athraw syniadau uchel am ei hen ddisgybl. Y John Jones hwn oedd tad Mrs. Hughes, sydd yn bresenol yn byw yn y Ty Newydd, Llanelwy.

Blaenor arall fu yma am flynyddoedd oedd ISAAC HUGHES (gwr Mrs. Hughes a grybwyllwyd ddiweddaf), a breswyliai yn Llansantsior. Parhaodd ef i wasanaethu yn y swydd tra y bu capel Penybryn yn aros, ac am beth amser wedi tynu y capel i lawr, pryd y gwnaed yr achos yn ddigartref, ac y gorfodwyd yr eglwys fechan i gartrefu fel y gallai mewn ty anedd, a elwid y pryd hwnw, ac a elwir eto, "Y Sun." Yn y flwyddyn 1865 symudodd Isaac Hughes i fyw i ardal Cefn Meiriadog, lle y galwyd ef drachefn i fod yn flaenor, ac y gwasanaethodd yn y swydd yn ymdrechgar hyd ei farwolaeth yn 1899.

Bu JOSEPH HUGHES, brawd Isaac Hughes, hefyd yn flaenor am flynyddoedd yn Mhenybryn, ac yn ddefnyddiol yn y swydd hyd nes y symudodd o'r gymydogaeth i fyw i Golwyn. Galwyd ef yn flaenor hefyd yno, a bu yn ffyddlon hyd angau. Gwr darllengar, myfyrgar, ac o duedd i gyfranu goleuni i eraill mewn cymdeithas oedd efe. Y rhai fu yn gwasanaethu fel arweinwyr y canu, yn ol eu medr a'u gallu amrywiol, oedd, y cyntaf, JOSEPH JONES,