Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

—pellder o tuag wyth milldir, ac yn gyffredin i'r Bontuchel, deg milldir yn mhellach, erbyn dau, ac i'r Dyffryn, chwech neu saith milldir i gyfeiriad arall, erbyn chwech; yna adref, wedi teithio o leiaf 37 milldir; a byddai wrth ei orchwyl bore Llun mor gynar a neb yn y fro. Dechreuwyd cynal y cyfarfod eglwysig yn ei dy ef yn dra chynar; ryw gymaint o leiaf cyn 1778, am y gwyddis mai dyna y flwyddyn yr ymunodd Mr. Thomas Edwards, Llanelian—Thomas Edwards y pregethwr o Liverpool, wedi hyny—â'r eglwys fechan yn y lle. Yr oedd y Bryngwyn yn fan canolog i'r aelodau oedd ar wasgar yn Llanelian, Llysfaen, Bettws, Llansantsior, ac Abergele, i gyfarfod ynddo; a dyma fu eu hunig fan cyfarfod am flynyddau lawer. Y mae enwau amryw o aelodau yr eglwys fechan hon eto ar gael. Heblaw. y Thomas Roberts oedd yn byw yn y ty, diau fod John Griffith, "gwr craff a llygadog," a ddaeth yma o Adwy'r Clawdd, ac Edward Evans a Copner Williams, o'r Bettws, yn mysg y rhai cyntaf; yna Thomas Edwards (Liverpool), John Hughes, (Mansfield Street, Liverpool); Robert Parry, Llansantsior; Thomas Lloyd—wedi hyny y gweinidog a'r ysgolfeistr " y mae ei enw a'i goffadwriaeth mor adnabyddus a pheraroglaidd; John Hughes, Penybryn; Thomas Jones, Tanyrogof; ac o bosibl Thomas Jones ac eraill o deulu y Nant Fawr. Ymddengys mai John Griffith a olygid yn flaenor y gymdeithas. Nis gellir bod yn hollol sicr am yr amser y peidiwyd a defnyddio y Bryngwyn fel man y cyfarfod eglwysig. Ond y mae yn sicr mai yno y cyfarfyddid am flynyddoedd wedi adeiladu y capel yn y dref. Yn y Bryngwyn yr oedd yr eglwys pan ymunodd Mr. T. Lloyd â hi yn 1796, er fod y capel wedi ei adeiladu yn y dref yn 1791. Ond yr oedd yr eglwys yn y Bryngwyn, mae'n amlwg erbyn hyn wedi dyfod yn ddigon lliosog i ymranu yn dair o wahanol gymdeithasau yn yr ardaloedd cylchynol—un yn nhref Abergele, arall yn Nhy'nycoed, Llanelian, y ty y