Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/80

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr un modd am THOMAS EDWARDS, TY CANOL, TYWYN; fel aelod a blaenor yn eglwys y Morfa y terfynodd yntau ei oes.

HENRY WILLIAMS, PLAS LLWYD, mab William Williams. Yma y dewiswyd ef yn flaenor pan yn wr pur ieuanc. Yr oedd wedi cael addysg dda, a bu am beth amser yn y Coleg yn y Bala, fel yr elai lleygwyr, weithiau, yn y dyddiau hyny, ar anogaeth Dr. Lewis Edwards. Gwr o deimladau llednais, mawr ei sel dros lwyddiant crefydd, a gwresog iawn ei ysbryd oedd Henry Williams. Symudodd i Abergele amryw flynyddoedd cyn diwedd ei oes. Gwel hanes Abergele.

EDWARD EDWARDS, Y FACHELL.—Yr oedd ef yn fab i'r Thomas Edwards a enwyd o'r blaen, wedi ei fagu yn yr eglwys, a glynu wrthi ar hyd ei fywyd, hyd nes y'i galwyd i fod yn flaenor. Bu ffyddlon hyd angau, ac nid oes amheuaeth na dderbyniodd goron y bywyd. Gwasanaethodd yr achos yn gyson ac ymroddedig yn y Morfa am y 40ain mlynedd diweddaf. Yr un noson ag y galwyd Edward Edwards yn flaenor, dewiswyd hefyd WILLIAM JONES, PENYFFRITH, y pryd hyny, ar ol hyny o'r Faerdre, ac er nad ymgymerodd ef â'r swydd, gwnaeth lawer o'i gwaith, ac yn arbenig, yr oedd yn athraw galluog, a medrus, a ffyddlon yn yr Ysgol Sabbothol: gwr darllengar, gwybodus, a doniol.

Y blaenoriaid yn bresenol ydynt—Mri. Moses Williams, John Edwards, y Fachell, a W Morris Owen, Ty Newydd. Yn nechreu y flwyddyn 1874, y daeth y gweinidog cyntaf yma ar alwad yr eglwys hon ynglyn ag eglwys y Tywyn, sef y Parch. Jonathan Jones. Bu ef yma hyd 1883. Ar ol hyny, galwyd y Parch. Phillip Williams; ac yn ddiwedd— arach, y Parch. Robert Williams, y gweinidog presenol. Ceir manylion pellach ynglyn â hanes y Tywyn.

Fel rhai fu yn ffyddlon fel athrawon yn yr Ysgol Sabbothol, heblaw y brodyr a grybwyllwyd eisoes fel