Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/81

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

blaenoriaid, dechreuwyr canu, &c., dylid enwi Morris Jones, Glanymorfa, Robert Jones, Penymorfa, a Thomas Roberts, Penybont. Yr oedd y diweddaf yn perthyn i'r Ysgol pan oedd yn Mhenybryn, ac y mae wedi parhau yn ffyddlon iddi, fel athraw a holwyddorwr, hyd y dydd hwn. Efe, erbyn hyn, yw yr unig un sydd yn aros o'i hen gyfoedion cyntaf.

Dylid cofio am y gwasanaeth gwerthfawr a roddodd Isaac Jones (Eos Morfa), mab John Jones, Ty Newydd, y blaenor a grybwyllwyd, i ganiadaeth y cysegr yn yr ardal hon. Dysgodd gyfundraeth y Sol-ffa i ugeiniau yn yr ardal, yn gystal ag yn yr ardaloedd cylchynol, pan ddygwyd y gyfundraeth hono allan gyntaf yn Nghymru, dros 40 mlynedd yn ol. Mae ef eto yn aros, ac yn byw yn y Rhyl. Bu ei wasanaeth i ganiadaeth y cysegr yn y cylchoedd hyn yn fawr, ac yn ddechreuad cyfnod o welliant diamheuol. Canu fyddo ei ran byth. Bu chwaer iddo, hefyd, Miss Ann Jones, yn arwain y canu yn y lle hwn am dymor lled faith, a chyflawnai ei gwaith yn dra medrus, diymhongar, a llednais, ewbl weddus i'w rhyw, a chymeradwy gan y gynulleidfa.

Er na fu eglwys y Morfa ond anfynych, os un amser, yn fwy na rhyw haner cant mewn rhif, na'r gynulleidfa ond tua chant yn gyffredin, a'r Ysgol Sabbothol rywbeth yn gyffelyb, er hyny, hauwyd llawer o'r hâd da yn y fro hon drwy y moddion syml a ddefnyddir, ac nid oes ond y dydd hwnw a ddengys pa faint fydd y ffrwyth. Cafwyd gafael ar lawer perl i'w gosod yn nghoron Prynwr y byd. Yr wyf y fynyd hon yn cofio am Miss Williams, Plas Llwyd, Mrs. Edwards, y Fachell, ac aml un arall sydd yn y gwynfyd er's llawer blwyddyn. Er fod Morfa Rhuddlan yn wastat-tir gwych am wenith a fla a phorfa, buasai yn wlad dlotach oni bai am yr eglwys Fethodistaidd fechan sydd yno yn darparu ymborth ysbrydol ar gyfer y trigolion gwasgaredig. Heddwch fyddo iddi, a ffyniant i'w holl aelodau.