Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/82

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

TYWYN.

GAN Y PARCH. JONATHAN JONES, LLANELWY

—————————————

NID ydym yn cael prawf fod nemawr neu ddim wedi ei wneyd cyn dechreu y ganrif ddiweddaf tuag at sefydlu Methodistiaeth yn y gymydogaeth hon. Y pryd hyny, nid oedd nac Ysgol Sabbothol nac unrhyw foddion arall gan unrhyw blaid grefyddol. Yr oedd y trigolion yn aros yn nhir tywyllwch, ofergoeledd, ac anfoesoldeb. Fel pob ardal bron yn Nghymru, cyn codiad Methodistiaeth, anialwch hefyd oedd y fro hon. Nid oedd unrhyw ymdrech yn cael ei gwneyd i'w goleuo a'u dyrchafu gan neb, gan Eglwys Loegr, na chan neb o'r Ymneillduwyr. Ac felly, rhaid cofio mai pren a dyfodd yn gwbl yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg ydyw Methodistiaeth yn Nhywyn. Nid oedd wedi ei blanu cyn hyny.

Yn ystod y deng mlynedd cyntaf o'r ganrif, dechreuodd nifer fechan o'r trigolion fyned i Abergele i wrando y Methodistiaid, ac yn raddol, ymunai ambell un o honynt â'r eglwys yno. Ac felly y goleuwyd aml i ganwyll i oleuo yma. Yn ddilynol i hyn, dechreuwyd meddwl beth a ellid ei wneyd er dwyn moddion gras yn nes i gyraedd y fro esgeulusedig hon. Cychwynwyd Ysgol Sabbothol yn ysgubor y Gainge Fawr. Dyma hedyn y pren. Y gwr oedd yn byw yn y Gainge ar y pryd oedd Henry Williams, tad y blaenor adnabyddus William Williams, Plasllwyd, a thaid Henry Williams, a fu yn flaenor yn y Morfa, ac ar ol hyny yn Abergele, hyd ei farwolaeth ychydig flynyddoedd yn ol.