Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/83

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cynhaliwyd yr ysgol, a cheid ambell bregeth a chyfarfod gweddio, yn ysgubor y Gainge am amryw flynyddoedd. Gwelid yn amlwg fod yr hedyn yn gwreiddio i lawr, ac yn tyfu tuag i fyny, canys yr oedd bywyd a bendith ynddo. Yn Abergele yr oedd y rhai a ofalent am yr Ysgol, &c., yn aelodau eglwysig; a chafwyd peth cymorth yn ystod y cyfnod hwn hefyd i ddwyn y gwaith ymlaen gan frodyr a ddelent yma o Ben y Bryn Llwyni.

Yn y flwyddyn 1818 yr adeiladwyd capel yma gyntaf. Adroddir am y modd y cafwyd tir i adeiladu arno ynglyn â hanes Abergele a Betti Thomas. Mae y capel bychan hwnw yn awr, ac er's dros driugain mlynedd, yn ffurfio rhan orllewinol y ty a adnabyddir fel Muller's Cottage. Enw y capel oedd Salem. Gellir canfod y capel hyd heddyw fel rhan o'r ty. Sefydlwyd eglwys yma rywbryd yn fuan ar ol codi capel, ac yr ydym yn credu mai William Williams, Plas Llwyd, a Thomas Edwards, Ty Canol, oedd y blaenoriaid cyntaf. Y Beibl oedd ar y pulpud oedd hen Feibl Peter Williams." Mae y copi hwn eto ar gael a chadw, yn bres- enol yn ngofal Mrs. Phebe Jones, gynt o Dy Nant, Tywyn, ond yn bresenol sydd yn byw yn y Rhyl. Y trefniant sydd yn ysgrifenedig ar ei glawr ydyw, ei fod i gael ei gadw dan ofal y chwaer hynaf berthynol i eglwys Tywyn o oes i oes. Mae yn velic dyddorol ynglyn a'r achos yn y lle. Argraffiad 1770 ydyw. Gofaler am ei ddiogelwch.

Cynyddodd yr achos Methodistaidd yn dda mewn siriol- deb a grym yn ystod yr ugain mlynedd y bu ei gartref yn hen gapel bychan Salem, neu Muller's Cottage, fel y'i gelwir mewn traddodiad ar dafod-leferydd yn yr ardal. Bu y Parch. Henry Rees yma yn pregethu lawer gwaith, pan oedd yn yr ysgol yn Abergele gyda y Parch. Thomas Lloyd. Testyn y pregethwr ieuanc enwog unwaith oedd 3 loan 12, "Y mae i Demetrius air da gan bawb, a chan y gwirionedd