Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei hun." Ni adroddwyd dim o'r bregeth wrthym; ond dywedwyd fod rhai cŵn yn y gwasanaeth, a darfod iddynt dori ar ei dawelwch drwy ymrafaelio, er gofid mawr i galon y gwr ieuanc dwys oedd yn pulpud. O Abergele, ac ar brydnawn neu fore Sabboth, fynychaf, y ceid y pregethwyr yn ystod y cyfnod hwn. Yr oedd gwedd fyw a chynyddol. ar yr ysgol a'r eglwys a'r gynulleidfa. Bu Betti Thomas yn ddiarhebol am ei ffyddlondeb, ei sêl. a'i haelioni, yn ol ei gallu, gyda'r gwaith. Pan ofynid iddi o ba le neu pa fodd yr oedd yn cael arian, a phethau eraill, i'w rhoi at yr achos, ni roddai byth ddim manylion fel atebiad. Y cwbl a ddywedai fyddai, "Ganddo Ef yr wyf yn cael y cwbl."

Yn y flwyddyn 1838 yr adeiladwyd capel newydd yn lle Salem, a hyny ar y fan lle y mae y capel presenol. Y mae llawer o'r muriau, a pheth o'r to, eto yn aros fel rhanau o'r capel sydd yno yn awr. Ar gongl cae perthynol i'r Penisa' yr adeiladwyd y capel hwn, a chafwyd y tir ar brydles gan Roger Hughes, o Ruddlan. Ar farwolaeth Roger Hughes. yr oedd ffarm y Penisa' yn myned ar werth. Yr oedd llygaid rhai o dirfeddianwyr mwyaf y cylchoedd hyn arni. Teimlai y Methodistiaid fod eu capel mewn enbydrwydd mawr pe syrthiai y ffarm a'r tir oedd dan eu haddoldy i ddwylaw rhai erledigaethus, a gelynion i Ymneillduaeth. Prynwyd y ffarm gan Mr. H. R. Hughes, Kinmel, ond llwyddodd y diweddar Mr. David Roberts, Tan'rallt, Abergele, i gael meddiant o'r cae yr oedd y capel arno, a rhoddodd y tir sydd dano yn eiddo rhad a diogel i'r Cyfundeb dros byth. Capel lled fychan, ond mwy o gryn lawer na Salem, oedd hwn, gyda dau ddrws yn ei ochr, a'r pulpud rhyngddynt, ac eisteddleoedd ysgwar i gantorion yn ymyl y "sêt fawr." Yn y flwyddyn 1871, helaethwyd llawer ar y capel hwn eto, drwy chwanegu y ty capel ato; a gwnaed yr oll o hono yn newydd oddimewn. Yn yr un ffurf yr erys