Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/85

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hyd yn bresenol, ac y mae yn gwbl gysurus a buddiol i'r gynulleidfa.

Mewn blynyddoedd dilynol, ychwanegwyd tair adeilad arall, y cyntaf oedd ty a shop i fod at wasanaeth un o'r aelodau,—John Jones oedd yn cael ei droi o dy a shop fechan yr oedd ynddynt, gan dirfeddianydd Ceidwadol ac Eglwysig a gelyniaethus i Ymneillduaeth, oherwydd ei ymlyniad wrth Fethodistiaeth, a'i sel drosti. Cafodd John Jones, er nad oedd ganddo ond un law i enill ei gynhaliaeth gartref cysurus yma er gwaethaf yr erlidwyr, tra y bu arno eisiau cartref ar y ddaear, a bu o lawer o werth i'r achos crefyddol. Adeiladwyd hefyd yr Ysgoldy sydd yma, a thy y gweinidog, ar adeg ddiweddarach. Cafwyd yr holl dir angenrheidiol i'r amcanion hyn gan Mr. J. Herbert Roberts. A.S. Mae y pedair adeilad—y capel. y shop, yr ysgoldy, a thy y gweinidog, yn eiddo gwerthfawr, ac yn ateb eu dibenion yn rhagorol. Ac y maent oll yn feddiant diogel in Corff Methodistaidd. Ynglyn a'r holl ymdrechion i godi yr adeiladau, ar y gwahanol adegau, bu yr aelodau eglwysig a thrigolion yr ardal yn gyffredinol, yn ffyddlon a llafurus i gludo yr holl ddefnyddiau, a hyny o gryn bellder ffordd, yn rhad ac am ddim. Ysgrifenir llyfr coffadwriaeth ger ei fron Ef;" nid yw yr Arglwydd yn anghyfiawn, fel yr anghofio eich gwaith a'ch llafurus gariad."

Cafodd yr eglwys yn Nhywyn brofi gradd dda o ddylanwad y Diwygiad enwog yn 1859 a 1860. Dechreuwyd y fflam drwy i frawd perthynol i'r eglwys—Robert Jones, Sand Bank—oedd wedi digwydd bod ar ymweliad ag ardaloedd Llanrwst, lle'r oedd y Diwygiad yn ei rym, fyned yn uniongyrchol, cyn myned i'w dy ei hun, i gyfarfod gweddio oedd y noson hono yn cael ei gynal yn y capel, ac adrodd hanes. y tân Dwyfol yn yr ardaloedd yr ymwelsai â hwy. Cyn iddo