Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/86

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eistedd i lawr, enynodd y fflam yn y cyfarfod gweddio, a buwyd yn y lle am oriau maith yn molianu ac yn bendithio Duw. Parhaodd yr eglwys yn dra gwresog am fisoedd; ychwanegwyd tua 50 at ei nifer, a pharhaodd llawer o honynt yn grefyddwyr rhagorol am weddill eu dyddiau. Y mae ychydig o'r enwau ymhlith y rhai byw hyd y dydd hwn. "O Arglwydd, cofia y Jerichoniaid yna," meddai un brawd selog ar weddi ryw noson yn ngwres y Diwygiad. Ymddengys nad oedd trigolion Jericho—rhyw haner dwsin o dai cysylltiol a'u gilydd sydd yn y gymydogaeth—hyd hyny wedi cymeryd eu gorchlygu gan yr awelon nefol. Modd bynag, bu y Diwygiad hwnw yn godiad pen pwysig i waith yr Arglwydd yn yr ardal. Daeth bendith fawr drwy y Diwygiad.

Y brodyr fu'n fwyaf blaenllaw gyda'r achos yn ei wahanol. ranau o'r dechreuad oeddynt:—William Williams, Plas Llwyd: Thomas Edwards, Ty Canol; Isaac Roberts, Gainge Fawr: Thomas Williams, Ty'r Capel; Thomas Jones, Penisa'; John Jones (hynaf). Ty Nant: Thomas Williams, Gainge Bach: a John Jones (ieuangaf), Ty Nant. Yr oedd Isaac Roberts yn ddirwestwr selog, a dilynodd lawer ar y Cyfarfodydd Ysgolion. Cofir yn hir hefyd am Peter Davies, Ty'r Capel, a fu yn dechre canu yma am flynyddoedd maith —pererin ffyddlon. Rhoddwn yma restr gyflawn o'r brodyr fu yn flaenoriaidd o ddechreuad yr achos hyd heddyw, rhai o honynt am dymor faith, ac eraill am amser byrach:—

WILLIAM WILLIAMS, PLAS LLWYD. Gwr pwyllog, addfwyn, o gymeriad cryf, dilychwin, mawr ei barch gan bawb, defnyddiol iawn yn y seiat ac yn yr Ysgol Sabbothol, ac a allai draethu yn dda, ac yn faith, ac yn fuddiol ar y benod a ddarllenai yn y cyfarfod gweddio; colofn gref oedd efe. Bu farw Chwefror, 1872, yn 82 mlwydd oed.