Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/90

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ysgol ddyddiol a dylanwad y tirfeddianwyr, neu yn hytrach, dylanwad "un tirfeddianydd," oedd yr arfau a ddefnyddid i geisio lladd Methodistiaeth yn yr ardal. Ond nid yn hir y parhaodd yr hudoliaeth a'r gorthrwm. Cymerodd yr oll o'r ymadawiadau o'r capel i'r eglwys le yn haner olaf 1873. Nid ymadawodd neb yn 1874 a'r blynyddoedd dilynol, o leiaf dim mwy nag sydd yn digwydd o bryd i bryd mewn unrhyw ardal. Ymhell cyn heddyw. y mae y ffermydd a ddelid y pryd hwnw gan deuluoedd a adawsant y capel, yn cael eu dal bron oll gan Fethodistiaid ac Ymneillduwyr. Ac y mae yr achos Methodistaidd wedi bod am y 30ain mlynedd, ac ychwaneg a ddilynodd, mewn gwedd mor lewyrchus ag ydoedd cyn ymosodiad hudoliaethus ac erlidgar 1873. Canys am Seion y dywedir, "Ni lwydda un offeryn a lunier i'th erbyn."

Tua'r blynyddoedd 1884 1887, bu y diweddar BARCH, R. AMBROSE JONES yn dyfod yma yn ffyddlon o Abergele i gynal seiat a chyfarfodydd gyda'r plant a'r ieuenctyd, a bu ei wasanaeth o werth mawr. Gweithiwr difafl oedd ef.

Ar ei ol ef, galwodd eglwysi Tywyn a'r Morfa y PARCH. PHILLIP WILLIAMS, O BETHESDA, i'w bugeilio, yr hwn, wedi gwasanaethu yn ddefnyddiol am tua dwy flynedd, a ddychwelodd yn ol i Arfon.

Yn 1891, y galwodd y daith y PARCH. ROBERT WILLIAMS, ac y mae ef wedi parhau yma yn ei ffyddlondeb a'i ddefnioldeb hyd yn awr.

Bu y PARCH. WILLIAM ROWLANDS, am yr hwn y crybwyllir ynglyn â hanes Abergele, yn aelod yma am flynyddoedd olaf ei oes, gan ei fod yn trigo yn y Ty Slates, gerllaw y capel.

Y mae nifer yr aelodau eglwysig ar hyd y blynyddoedd yn gyffredin o dan 100, a'r gwrandawyr tua 150. Ond os