Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/91

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

meddylir am y lles a'r dylanwad dyrchafol a fu yr achos Methodistaidd yn yr ardal am y can' mlynedd yr ydym wedi bwrw golwg frysiog drostynt, credwn y teimla pawb fod gwasanaeth mawr i Grist a chrefydd wedi ei gyflawni. Tyfodd yr hedyn bychan a blanwyd yn hen ysgubor y Gaingc yn bren o gryn faintioli. Cafodd oes ar ol oes fwyta o'i ffrwyth, ac mae eto yn parhau i flodeuo ac i ffrwytho. O'r Arglwydd y daeth hyn oll, a rhyfedd yw yn ein golwg ni. Efe bia y clod.