Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012.djvu/1

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012

2012 dccc 1

Deddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ynglŷn â’r defnydd o’r Gymraeg a’r Saesneg yn nhrafodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wrth i Gomisiwn y Cynulliad gyflawni ei swyddogaethau. [12 Tachwedd 2012]

Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:

1 Diwygio adran 35 o’r Ddeddf (Trin yn gyfartal)

(1) Diwygier adran 35 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) (“y Ddeddf”) fel a ganlyn.
(2) Yn lle is-adran (1), rhodder—
“(1) The official languages of the Assembly are English and Welsh.[1]
(1A) The official languages must, in the conduct of Assembly proceedings, be treated on a basis of equality.
(1B) All persons have the right to use either official language when participating in Assembly proceedings.
(1C) Reports of Assembly proceedings must, in the case of proceedings which fall within section 1(5)(a) (proceedings of the Assembly), contain a record of what was said, in the official language in which it was said, and also a full translation into the other official language.
(1D) Paragraph 8 of Schedule 2 makes provision about how the Assembly Commission must enable effect to be given to subsections (1) to (1C).”
  1. Er mae "fersiwn Cymraeg" o'r ddeddf yw'r ddogfen hon sy'n cael ei gyhoeddi o dan reolau Cymreig parthed statws cyfartal i'r ddwy iaith, mae bron y cyfan o'r diwygiadau yn y ddogfen yn ddiwygiadau uniaith Saesneg gan eu bod yn ddiwygiadau i ddeddfau Llywodraeth San Steffan a gyhoeddwyd trwy'r Saesneg yn unig.