nifer honynt sydd wedi ymwthio megis i'w gilydd, fel pe gywilydd ganddynt fodoli yn ymyl y mur uchel sydd yn rhedeg heibio iddynt fel caer gref am ystâd fawr Llifon, ac mai'r unig esgus am eu bodolaeth yno ydyw, eu bod wedi dod i gardota cysgod o dan y coed trwm-frig sydd yn taflu eu canghennau tros y mur. Yr oedd yn fangre hynod, ac yma y tarddai pob drwg, dim ond ffenestr wedi ei thori yn y Llan, un o blant y Wal fyddai bob amser yn cael y bai am hynny, neu os ceid allan fod yna helwriaeth wedi ei gyflawni ar dir godidog Llifon, rhai o blant y Wal fyddai y rhai hyn.eto.
Unrhyw drosedd, unrhyw gam,
A gyflawnid yn y Llan,
Wedi methu neb a'i ddal (y troseddwr),
Rhaid rhoi'r bai ar blant y Wal.
Dyna rigwm a genid yn lled gyffredin gan y plant.
Mangre hynod arall yn y fan hon ydoedd cornel pobty yr hen Graswr, ac yma y cynhelid y cynghorau mwyaf pwysig gan y plant, ac yr adroddid pob hanes hen a newydd, a mwy byddai plant y lofa yn cyfarfod a'u gilydd a phob un a'i stori o'r pwll, a'r fath swyn oedd ynddynt 'r bechgyn hynny nad oedd raid iddynt rodio ei nentydd tywyll.