drwy wregysu y plentyn i dynnu ôl a blaen y petch (math o dwb llysg) a gwaith a sôn mawr am dano y dyddiau hynny oedd y gwaith o dynnu'r petch. Gwaith anodd, ac ar lawer ystyr, peryglus, a chyn diwedd y dydd, yn aml, byddai ystlys dyner y plentyn yn goch gan waed, effaith y gwregus ar ei gnawd noeth.
Bu i Jarvis glywed am y driniaeth greulon hon yn nhŷ Ann Jones, gan rai o'r mamau, a'r modd yr oeddynt yn gorfod trin, hyd ddagrau ystlysau gwaedlyd eu plant.
Eisteddodd Jarvis ar lwmp o lô, ac yn digwydd bod wrtho ei hun, 'ym mhen y ffordd fel y'i gelwid yn y talcen, yn y man clywai sŵn y petch yn cael ei lusgo yn araf, a dyna ei sŵn yn aros. Yr oedd y petch wedi taro yn erbyn un o'r propiau, pa rai a osodid yn un llinell ar hyd wyneb y talcen. Gadawodd Jarvis ei lusern yn lle yr eisteddai, yna symudodd ar ei liniau ymlaen ychydig ar hyd y wyneb, ac eisteddodd yno i wrando. Yn y man dyna reg gan y plentyn, rheg drachefn, a chlywai yr hogyn yn gwaeddi ar yr un a'i llanwai yn y pellter, effaith gorlwytho y petch ydoedd yr anhawster a barai i'r plentyn regi.
"Wyt ti'n dwad Sion? Ella i mo'i symud o," gwaeddai, ond yr oedd y pellter mor fawr a'r top roof mor isel fel mai gwaith anhawdd ydoedd cael Shon i ddod ato.
"Mi floeddia i ar Shenkyn, os nad wyt ti'n dwad Shon," ebai y petchiwr bach drachefn. Ond erbyn hyn, yr oedd Jarvis wedi llusgo ei hun yn lled ddistaw i'w ymyl.
"Beth yw'r mater?" ebai Jarvis.
"Shon sy'n llwytho'r petch 'ma a ma'r—
"Ella i'ch helpu chi?" gofynnai Jarvis.
"Prin y gallai droi ato fy hunan yn y fan 'ma," ebai y bachgen gan ateb.