gyfrinach. Faswn i ddim yn ail swyddog ym mhwll Llifon oni bae am y foneddiges ieuanc hawddgar yna o'r Castell, yn siwr i chi."
"Wrth gwrs, y mae yn rhyfedd i ni gyd, Mr. Jarvis, sut y bu i chi gael mynd yn swyddog mor uchel, 'chos dene bachgen James Edmwnd, mi ddaru o ennill y second class a ma' fo 'di mynd i rwle i Yorkshire yn giaffar—er 'wrach y base fo yn cael mynd tase fo yn aros—"
"Wel, ni charwn feddwl fy mod wedi mynd i'r swydd ar draws neb o blant y lle Ann Jones, na charwn wir."
"Ma' pawb yn rhy falch o feddwl am danoch chi yn y swydd Mr. Jarvis, er fel y deudes i ma' fo'n ryfe ddod mawr i ni i gyd sut y bu i'r hen Stork adael i chi fynd mor agos ato fo."
"Dyna fi wedi egluro i chi Ann Jones, sut y bu hi, ac nis gwyr neb yn Llifon y newydd yna ond y chi, ac yr wyf yn ei disgwyl yma heno. 'Newch chi 'paned iddi?" "Y Bodolaeth mawr, Mr. Jarvis—Peidiwch—"
"Ann Jones,"—cododd Jarvis ei law arni. "O bridd y ddaear y crewyd pob dyn, ac yn ol fy mhrofiad onest, ddi-dwyll i, mae cystal gwaith o'r pridd ym mythynod Gwalia ag sydd yn ei phalasau unrhyw ddydd. Dyma chwi hanesyn bach i brofi beth wy'n ddeud: yr oeddwn yn digwydd cerdded ar daith fach cyn dod yma, ac yn digwydd galw yn nrws bwthyn ar fin ffordd i ofyn cyfeiriad. Yr oedd y drws yn agored, a'r peth cyntaf a welais gyferbyn a mi yn y tŷ oedd dynes ieuanc lân, brydferth, yn dod allan o lewyg drom. Yn wir, yr cedd yr olwg arni yn frawychus, ac euthum i mewn yn cefn—tŷ siambar ydoedd, a beth welwn yn y siamber yr hon oedd a'r drws yn agored