Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel).djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond hen hen wraig yn marw. 'Roedd hi yn y glyn Ann Jones, ac am ychydig ni wyddwn beth i'w wneud; ond rhedais i'r tŷ cyfagos ac yn fy nghwrdd yn dod i lawr llwybr y buarth tan hopian yn gloff 'roedd dynes arall tua thrigain oed efallai. "Ddynes fach," meddwn, "dowch i'r tŷ accw."

'Yn dwad ene 'roeddwn i Syr," ebe hithau. "Ma'n ddrwg gyna'i gadel hi, ond ma' gen i ferch ar wely cystudd. Dywedais wrthi wrth gyfeirio yn ol, am sefyllfa y ddynes ieuanc a welais.

"Ia, ebai, "dyw hi'n perthyn dim i'r hen wraig, ond ma' hi wedi mynnu aros i fyny efo'r hen wraig dair noson yn ddilynol, a 'dyw hi ddim yn gryf, ond fod ganddi galon gynnes."

"Ac yn perthyn dim iddi," ebwn.

"Dim."

"Yr oedd gloewder llygaid Jarvis wedi ei leithio wrth adrodd yr ystori fach hon i Ann Jones. Aeth ati i dynnu ei siaced. Yr oedd erbyn hyn wedi dechreu gwisgo dillad swyddogol y gwaith, o wneuthuriad glas tywyll.

Cydiodd Ann Jones yn ei siaced, gan feddwl y buasai unrhyw ur o ferched y Wal yn falch o gael gweini ar un o swyddogion uchaf Pwll Llifon. Yr oedd Bob yn gweithio shifft brynhawn, a meddyliodd mor hoff fuasai Bob o fod gartref y noson hon; ond efallai mai ryw goeg chwarae a wnaethai Jarvis a hi.

"Ydi mae merch Syr Alwyn yn dod yma heno Ann Jones," ebai drachefn wrth eistedd ar ei gadair, ac yr ydw yn siwr y gwna hi felly fwynhau yr ymweliad gymaint a hynny yn fwy. Dim seremoni o gwbl. Ryw fater bach