cyfrinachol ynglŷn â rywbeth neilltuol sydd gennyf yn y gwaith ydyw, ac y mae, fel y dywedais, wedi addo fy helpu; ond rwy'n ddig wrthyf fy hun na fuaswn wed' gofyn eich caniatad iddi gael dwad, dyna'r unig beth sydd yn fy mlino."
"Mi geiff groeso fy ngwyneb i, yr un mor bur ag yde chwithe 'di ga'l o Mr. Jarvis."
Wedi gorffen ei ginio, cydiodd Jarvis yn ei bapur fel arfer gan danio ei bibell a thynnu ei gadair yn nes at y tân, a chan daflu ryw gipolwg dros y tŷ, gofynnodd
"Beth fydd gennych i ddeud wrth y foneddiges? Oes gyna chi ddim byd yn y tŷ 'ma ellwch chi ddangos a fydd o dyddordeb iddi?"
"Ddim mwy na fod y cartre wedi ei gadw i Bob bach yr un mor ffyddlon a gofalus ag ydi y Plas," iddi hithau, ac hwyrach mwy, Mr. Jarvis, ne' 'does dim byd arall gwerth edrych arno. Wrth gwrs, dene'r hen gader, fel 'de chi'n gwbod i ni ddeud wrthoch chi, y bu 'rhen Gristmas Evans yn arfer 'iste arni yn nhŷ fy nhaid—ne' dim arall. Pryd y daw hi?"
Gall fod yma rywle tua saith o'r gloch Ann Jones, canys gwn, neu credaf beth bynnag, nad yw y foneddiges ddim a'r awydd lleiaf i wneud arddangosfa o honi ei hun, felly tua saith mi dybiaf."
Yr oedd rhyw swyn rhyfedd yn y meddylddrych fod Aeres y Castell yn dod ar neges neilltuol i dalu ymweliad a bwthyn Ann Jones, ac os cafodd y cloc ei sylw unwaith, cafodd ef ganwaith y noson hon.
"Noson ryfedd ydi heno i chi Ann Jones," ebai Jarvis wrth ei gwylio.