"Y noson ryfedda' yn fy hanes ar lawer ystyr, os daw hi," atebai Ann Jones. A hawdd y gellid darllen hynny ar ei gwyneb pryderus, ac erbyn hyn yr oedd y nos yn araf daenu ei len ddu a hen fythynod y Wal yn cael eu prysur guddio o olwg y byd, tra dwndwr y pentref yn araf ddistewi, a swn yr afon droellog, yr hon oedd yn cael ei gwaedu yn wyn gan y torlannau cerrig a orweddai yn ei gwely—yn dod yn fwy hyglyw gyda'r nos, canys am y wal fach yng ngwaelod y buarth yn y ffordd y rhedai hen afonig wyllt Llifon, wedi ei chynddeiriogi gan y dolydd serth, a byddai Ann Jones yn hoffi aros wedi'r nos, am fynydau bach i wrando cwyn yr afon, ond nid felly heno, yr hen gloc a dyna'i ei sylw yn ddibaid.
"Ydi Syr Alwyn ei thad hi yn gwybod fod hi yn dwad tybed?" gofynnai yn y man.
"Y mae Syr Alwyn i fyny yn Llundain ers wythnos Ann Jones, a digon prin y buasai hi yn anturio pe buasai ei thad adref," ychwanegai.
"O dwi'n gweld, da iawn," ebai. Roeddwn ni yn ryw ofni i'w thad ddwad efo hi."
A daeth y newydd hwn a rhyw lun o sirioldeb i lygad y wraig, ac o'r funud yna, daeth awydd angerddol am ei gweled, ac erbyn hyn aeth i eistedd gyferbyn a Jarvis, a gweill ei hosanau i ddilio'r munudau ymaith.
Fflachia goleu y tân ar ei ffender loew, a chodai hithau ei golwg yn awr ac eilwaith i syllu ar wyneb Jarvis, gan ryfeddu pwy—pwy yw y fath un sydd wedi gwneud fy mwthyn yn fan hynod, y lle hynotaf yn Llifon i gyd, meddyliai. Pwy? gofynnai drachefn, ond yr oedd Jarvis. erbyn hyn wedi colli ei hun ym myd ei lyfr, ac ymddangosai