Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel).djvu/116

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gobeithio nad wyf ddim yn eich digio," ebai, "wrth gymeryd yr hyfdra i ddod i'ch tŷ heb fy ngwahodd Ann Jones?"

"Y fi sydd yn gyfrifol am hynny," ebai Jarvis.

"Does dim angen i hynny boeni yr un o honoch," eba Ann Jones. "Mae y mwynhad o gael eich gweled yn fy nhŷ yn rhywbeth nas gallaf roddi pris arno," ebai yn mhellach. Yna, aeth i estyn cadair iddi, a gafaelodd Jarvis yn ei gadair yntau, y naill am y bwrdd.

"Y mae eich tŷ yn hynod o lân a phrydferth," ebai Eurwen. "Yn dlws, yr wyf wedi synnu mor—, y mae yn anhawdd cael gair i'w egluro Ann Jones—yn dlws," ebai drachefu gan godi ei golwg ar y mur a'r hen silff dderw oedd yn gorffwys ar yr hen ddreser o'r un defnydd. "Ac y mae Mr. Jarvis yn siwr o fod yn hapus mewn lle fel hyn. Dim llawer i rodres yma rwy'n siwr," ebai, "ac nid yw'r dynion fel rheol yn hoffi ryw lawer o rodres."

"We1, y mae yn lle rhyfedd i un fel chi ddod iddo yn siwr, fy merch. Un o dai y Wal, ac yn wir nid llawer o fobol y llan 'ma sy'n hoffi dwad i dŷ yn y Wal. Ryw fobol ryfedd sy'n byw yn y Wal, medde nhw. Ond dyma ni fy merch, yn weddol hapus, ac yn neilltuol felly, yng nghwmni dyn mor glen a dirodres a Mr. Jarvis 'ma."

"Wel, yr wyf wedi meddwl llawer am gael dod i weled un o dai y Wal, ac y mae fy nhad i fyny yn Llundain, a meddyliais na fuaswn byth yn cael gwell cyfle na heno, ac wrth gwrs y mae gennym ryw fater bach i'w drafod, a dyma mewn gwirionedd roddodd y cyfle i mi ddod yma. Yr ydych yn byw yma ers talwm?"

"Yma y daethum i fyw ar ol priodi, ac yma yr wyf byth ac yma y byddaf mae'n debig."