Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel).djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XVI.

YR oedd y symudiad newydd hwn o eiddo Mr. Jarvis gyda dynion ieuanc Llifon yn tynnu cryn sylw, a'i ddylanwad yn gymaint fel o'r braidd na chywilyddiai yr Eglwy si at y fath lwyddiant, dim ond trwy offerynoliaeth dyn ieuanc dieithr penderfynol—y fath allu rhyfedd! Yn wir, yr oedd yn fath o wyrth, fel oedd wedi llwyddo i gael dynion a bechgyn y pwll mawr i arfer iaith lân. Yr oedd hefyd wedi llwyddo trwy gynorthwy neilltuol Eurwen i gael gwasanaeth nifer o athrawon priodol i roddi gwersi ar wahanol faterion ynglyn a'r sefydliad, ac edrychid ymlaen yn lled fuan at gael adeilad newydd perthynol i'r Urdd. Yn wir, yr oedd ei hanes yn myned led—led y wlad a rhoddid sylw iddo yn y newyddiaduron, ac erbyn hyn dechreua'r cylchgronau crefyddol gynhesu eu dalennau a hanes y mudiad yn gymaint felly fel y delai dynion cyhoeddus o wahanol barthau y wlad i gael gweled drostynt eu hunain ac at hynny gael eu cyfarwyddo gan Mr. Jarvis o barthed i'r drefn a weithredai.

Byddai Jarvis fel rheol yn gorfod treulio cryn amser yn ei swyddfa wedi iddo esgyn o'r pwll, ar ddiwedd y dydd, a chan amlaf erbyn hyn, dyna'r lle sicraf i gael gafael arno cyn hwyrhau o'r dydd.

"Ym mha le y gallaf weled Mr. Jarvis?" ymholai dieithrddyn yn y Llan.

"Yn office y gwaith Syr." Yr oedd hyn tua pedwar o'r gloch, a'r glowyr yn cyrchu adref o'r pwll yn lluoedd.