Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel).djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yna aeth y dieithrddyn ar ei union fel ei cyfarwyddwyd ef, at swyddfa y pwll, a holodd am Mr. Jarvis, a chafodd ef yno.

"Maddeuwch i mi am fy hyfdra. Yr wyf yn wedi dod o gryn ffordd i'ch gweled Mr. Jarvis, ac mae y train yn myned yn ol am bump o'r gloch, felly, chwi a'm esgusodwch."

"Gyda'r croesaw mwyaf," ebai Mr. Jarvis, "er yr oeddwn ar gychwyn adref, ond dowch i mewn."

"Mr. Kenin Jones, y Borth, dyna fy enw, ac wedi cael achos trwy ddarllen a chlywed am eich llwyddiant gyda dynion ieuanc y cylch i benderfynu dod i gael gweled i sicrwydd yn ei gylch; ond ni feddyliais eich bod yn swyddog yn y pwll."

"Ydwyf er's peth amser bellach," ebai Jarvis, "yn ngrym y swyddogaeth, y mae yn rhaid i mi ddweyd yr wyf yn llwyddiannus—yn wir, dyna paham yn bennaf y bu i mi wneud ymdrech i gymwyso fy hun i'r swydd—y fath gyfle."

Edrychodd Kenin Jones arno gyda mudanrwydd synedig, canys gwelai yn sefyll o'i flaen ddyn lled ieuanc a gweledigaeth neilltuol ganddo.

"Welwch chi'r pwll 'ma?" ebai Jarvis.

"Y mae yn waith mawr, yn ddiau," ebai Jones. Ac edrychai drwy'r ffenestr ar yr adeiladau peiriannol enfawr a'r llu o adeiladau eraill ynglŷn a gwahanol adrannau y gwaith.

"Ydyw, ebai Jarvis, mae tros fil o eneidiau yn disgyn iddo bob dydd, a'r rhan fwyaf yn ddynion ieuanc, ac y mae plant mor ieuanc a thair ar ddeg oed—nifer fawr o honynt yn disgyn iddo, a dyna be sy'n rhyfedd, mae ychydig ofal dros gyrff y cyfryw