a gawsai Mr. Parri yn y llythyr olaf a gawsai gan ei ffrynd. Ymhen ychydig amser, daeth llythyr eto o Chicago. Yn wir, oddiyno y digwyddai yr holl lythyrau ddod oddi wrtho. Tra yn cloddio ni chawsant gymaint ag un, a thra yn New York ni chawsant un, ac yr oedd hyn yn ddyryswch mawr i'w rieni.
"Ond bechgyn ydi bechgyn " ebai y fam, ac hwyrach na fase tithe damed gwell Nel. "Ac wedi i feddwl y fam gael ei sefydlu ar y bachgen yn yr America, y fam oedd yr unig un o honynt a daflai heibio ei holl ddiffygion—ei Derwyn hoff."
"Dyna'r haf diweddaf," ebai drachefn wrth Nel, y mis buost ym Mhwllheli gyda Janet, dau lythyr a ddanfonaist gartref, dim ond dau Nel, a be wyddom am anhawsterau Derwyn, 'wrach fod 'i bocied o ddigon gwag am ddim a wyddom." Ac ni allai ei fam oddef dim gael ei ddweyd yn anffafriol am Derwyn—dim. Yn wir, yr oedd y llythyrau a ddanfonasai i'w fam, er iddynt fod yn hir ac yn anaml, yn cynnwys y fath wefr o deimlad nes ymlid ymaith pob ryw gas feddyliau am dano, a phan fyddai gobaith ei dad ar suddo neu yn gwanhau, byddai y fam yn gwneud i Nel ddarllen un neu ddau o lythyrau Derwyn iddo, gan nad pa mor bell yn ol oeddynt.
"But it is a forced contentment Mary," torai allan i ddweyd. Rywbeth yde ni yn allu ei fanufactoro yma, yn lle fod o yn cael ei fanufactoro yn yr America 'ngeneth i." A rhedai meddwl ei dad i'r dref i swyddfa brysur enwog Mr. Rasp, ac yr oedd wedi gweled Mr. Rasp ryw bythefnos yn ol, ac yn cael ryw fath o edliwiad ganddo, fod y grisiau a ddylasai fod yn cael ei dringo i fyny yn ei swyddfa gan Derwyn, yn