cael eu dringo gan arall, ac yn ei dyb ef, Mr. Rasp, un llawer llai ei allu a'i gymwyster na Derwyn yn ei dringo, ond dyna'r ffaith, ac i chwerw'r ymwybyddiaeth, mab i Cynon Edwards y ffarriar ydoedd hwnnw, un o elynion penntaf tad Derwyn yn Llifon,—ei wrth ymgeisydd pendant dro ar ol tro, am ei sedd ar y Cyngor—ryw gidlim o fachgen fel y galwai tad Derwyn ef.
Glywest ti fod Bobi Edwards wedi ei godi yn Office Rasp Nel?" gofynai y fam.
"Mae' fo'n fact i chi," ebai y tad.
"Wele, dene chi fachgen na fase fo byth wedi pasio dau standard yn Ysgol y dre, one bae am help Derwyn. Rwyf yn cofio iddo fo grio fel plentyn fod Derwyn yn gwrthod gwneud i lesson o ar Geometry—rywbeth rhwng Derwyn a fo ar y pryd, a dene fo yn sefyll yn sgidie Derwyn megis. Rwy'n fecsio tros tada, a ma' Mr. Parri yn fecsio mam. Roedd o wedi bod yn siarad efo Mr. James yr head, a Mr. James ar unwaith yn holi am Derwyn, a wydde Mr. Parri ddim yn iawn be'i ddeud wrtho fo, ond fod o yn yr America wrth gwrs."
"Roedd roedd Mr. James yn meddwl y byd o Derwyn. Nid yn unig un o'r bechgyn gore, medde fo, ond ur o'r bechgyn anwylaf fu 'rioed tan 'i ofal o, ond fyddai yn meddwl yn aml Nel, mai'r anffawd fwyaf i rai fel ni ydi meddu y rhinweddau tyner yma, a dwi' wedi sylwi ma' nhw fel rheol yn cloffi'i bobl ore, fel ryw fath o lyffethair, a mi ddeudes lawer wrth Derwyn ar gownt mynd i'r Wal, ono 'roedd o yn byw ac yn bod efo Bob Jones, pob munud gaffe fo."
"O, 'roedd hynny yn ddim i'w yrru o i'r 'Merica mam, er ddeudes ine ddigon wrtho fo ar gownt mynd i'r Wal