Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel).djvu/131

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Alwyn a'i ferch dlos Eurwen; ond pan yn edrych gwelodd hi yn y ffenestr fawr, ac fel pe buasai yn ei wylio; ond cynted ag y gwelodd hi ef symudodd ymaith ac ym mhen ychydig amser dyna sŵn y drws mawr yn cael ei agoryd.

Yr ydych wedi cyrraedd," ebai, a'i grudd yn wrid o fwynhad. "Y mae fy nhad yn eich disgwyl; ond cafodd lythyr heddyw bore fod Gamant y Glyn yn wael iawn, ac un o'i ffryndiau pennaf ydyw Syr Gamant. Er hynny disgwyliai fod yn ol i'ch derbyn; ond nid yw wedi dod, tae waeth am hynny."

"Efallai na ddaw yn ol am beth amser," ebai Jarvis, a tynnodd ei oriawr allan.

"Y mae gennyf apwyntiad am saith o'r gloch yn y pentref nesaf." Gafaelodd a'i law gref am ei aeliau, y mae enw y pentref yn anghof gennyf, er dylwn ei gofio."

"Pentref Gerlyn," ebai hithau.

"Ie, dyna fo." ebai Jarvis.

Yr oedd y wedd hyfryd a wisgai Eurwen ar dderbyniad Jarvis at y drws wedi ei golli erbyn hyn, a safai Jarvis a'i osgo fel ar fyned yn ol ar unwaith. Ond y fath siomiant a fyddai hyn iddi, ac yn wir ar anogaeth Eurwen yr aeth ei thad i edrych am ei gyfaill, Syr Gamant, a mynnai Eurwen iddo fynd yn y rhagfeddwl y cawsai y cyfle arbennig hwn o dderbyn Mr. Jarvis i'w groesawu, a chyfaddefodd wrth Olwen, yr hon a gaffai gyfran led helaeth o feddyliau cyfriniol ganddi, y fath swyn oedd cael bod ym mhresenoldeb Mr. Jarvis. Yr oedd rhywbeth ynddo er y dydd y cyfarfyddodd ef gyntaf na ellid cyfrif am dano—rywbeth nas gallai ei meddwl gael ymryddhad oddiwrtho, ryw awydd angerddol yn cael ei ennyn ynddi yr hoffai gyfranogi