Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel).djvu/134

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Peidiwch a dal ar fy rhai i ynte, er mwyn y byd," ebai hithau, tra y dawnsiai ryw wefr o'i llygaid siriol, ar rudd oedd yn ddelw o brydferthwch.

"Pe buaswn ychydig ieuengach, buaswn yn dweyd mai dyna y rhai cyntaf i fy nghoncro Miss," ebai yntau, a chwarddai y ddau.

Wel," atebai hithau, " mae pawb yn dweyd fod llygaid fy nhad genyf, a dywed rhai oedd yn adwaen fy nain, fod rhywbeth yn debyg yn fy rhai i i'w rhai hi, ond cewch chwi farnu yn y man. Y mae darlun o fy nain genym yn hongian yn yr ystafell fawr yn ugain oed."

"Wel," ebai Jarvis, "nis gwn pa un ai chwi wnaeth yr anturiaeth fwyaf wrth ddod i fwthyn Ann Jones, neu myfi i ddod i balas Syr Alwyn. Pa un?"

"Wel, dyna gwestiwn anodd ei ateb Mr. Jarvis." Yr oedd wedi mynd y pryd hyn trwy y drws i ytafell fawr ysblennydd a holl gyfoeth ei dodrefn gwych yn ymagor o'i flaen. "Efallai ei bod hi yr un mor anodd o'r ddau gyfeiriad. Dyna ryfedd ydi'r byd onite Mr. Jarvis. Y fath gagendor ryfedd sy'n bodoli rhwng dosbarth a dosbarth, ac hwyrach pe buaswn yn rhoddi gwahoddiad i Ann Jones ddod yma yn yr un modd ag a ddaethom i yno, hwyrach y buasai yn orchwyl rhy anodd ganddi—ond trwy'r cwbl yr un nodwedd sydd i serch calon Ann Jones ag sydd yn yr ychydig serch sydd yn fy nghalon i, a dyna'r peth goreu a fedd y bwthyn a'r palas."

"Dyma ddarlun o fy mam, Mr. Jarvis,—y darlun anwylaf yn y fam 'ma, efallai. Tarodd Mr. Jarvis ei ddwylo ym mhleth o'r tu ol, i sefyll i edrych ar y darlun nodedig hwn o fam yr aeres, ac wedi ychydig funudau o ddistawrwydd dwys, dywedai y ferch gyda llais tyner, toddedig,