Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel).djvu/137

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Ystafell fy nhaid yr ydym yn galw hon." Ac un o'r pethau cyntaf yr arweiniwyd ef ato yr ystafell hon ydoedd darlun nodedig o nain Eurwen, mam ei thad Hongiai y darlun ar ganol y pared a wynebai y ffenestr fawr lydan oedd yn edrych i'r lawnt brydferth, ac ar y munudau hyn yr oedd pelydrau yr haul yn danlli loyw pan yn araf suddo dros y gorwel.

"Ah, dyma chwi," ebai Eurwen. "Prin y gallasem gael y fath gyfle i edrych arno, ac oddigerth fy mam, prif ddarlun y tŷ yn fy nhyb i Mr. Jarvis."

Symudodd Mr. Jarvis yn araf hamddenol i sefyll o flaen y darlun nodedig hwn, yr oedd wedi clywed am dano yn flaenorol.

"Dyma i chwi Ferch y Bwthyn, Mr. Jarvis. Mae yn debig eich bod wedi clywed Ann Jones yn son am dani, oherwydd mae yn fath o ramant fach yn Llifon, fe syrthiodd fy nhaid yn aberth i'w thlysni y munud y gwelodd hi, a mynnodd ei phriodi. Yr oedd hi yn eithriadol o brydferth, medde nhw."

"Mae hon yn byw eilwaith ym mherson un arall, os goddefwch i mi ddweyd hynny Miss," ebai yntau.

Gwridodd Eurwen, ac am ychydig amser ni wyddai beth i'w ddweyd, canys gwyddai gyfeiriad yr awgrym, a daeth llygad mawr perfiol Jarvis i aros arni.

"Wel, y mae y berthynas yn ddigon agos i hynny, ond prin y gallaf hawlio y fath deyrnged gennych Mr. Jarvis; ond dywedaf wrthych beth allaf ei hawlio. Y mae, ac ni allaf gyfrif am dano mewn unrhyw fodd arall ydyw y mae wedi trosglwyddo rywbeth i fy natur na chymerwn holl balasau y byd am dano."