hen furiau ar un waith i Jarvis fod cyfran fawr guddiedig o hanes ei wlad yn gysylltiedig a'r muriau hyn, a deuai sawr sur i argraffu hyn yn ddyfnach ar ei feddwl.
"Caf ychydig o hen hen hanes gennych ar y fan hyn," ebai Jarvis, a gwefr o swyn cywreinrwydd yn ei lais, yn sicr," ebai drachefn.
"Fy nhad eto fuasai yn gallu rhoddi hwnnw oreu i chwi Mr. Jarvis," ebai hithau yn ol. "Y peth pwysicaf a wn i am y rhan yma yw fy mod wedi cael fy nhaflu i'r carchar yma," a chwarddodd ar hyn, "ac ni fydd i mi byth ei anghofio" ebai drachefn.
"Carchar!" ebai yntau.
'Ie, yr wyf yn mynd a chwi i'r ystafell honno yrwan, Mr. Jarvis, ac y mae hi yn union yn yr un wedd ac yr ydoedd pan garcharwyd fi ynddi, ac efallai pan garcharwyd llawer o fy nghyd—genedl gan y Norddyn brwnt—dyma hi i chwi." A safai y ddau ar riniog ystafell fawr, gul, leithiog ei sawr. Yr oedd yn lan mae'n wir ac ambell i ddernyn o hen hen ddodrefn ynddi fel pe yn ymguddio o olwg byd. "Ie, dyma hi ystafell garchar y Castell, a chefais fy ngharcharu ynddi Mr. Jarvis," ebai, a rhyw wen fach ar ei grudd.
Choeliai byth," ebai Jarvis, "eich bod chwi wedi cael eich taflu i garchar yma Miss Eurwen. "Yna taniodd ei bibell am y waith gyntaf. Gwnaethai hyn i gael gwared o'r sawr anymunol.
Ie, cymerwch smogen Mr. Jarvis. Yr wyf yn meddwl y gwna'r mwg liniaru dipyn ar y sawr; hefyd yr wyf yn hoffi gweled dyn yn smocio. Do, bum yma yn garcharores am ddyddiau lawer."
'Naddo—"