rhyfedd, rhyfedd. Y mae yn freuddwyd gwir ryfedd, ond eto, y mae yr arwydd o'r ymdeimlad dwfn yna sydd yn eich natur at y bobl—ac fe'ch carcharwyd?"
"Do, ebai, a throdd ryw olwg synfyfyriol ar yr hen ystafell ddu, ac ebai, " ond dyma'r rhan ryfeddaf, ac y mae wedi glynnu ynof. Pan oeddwn yn gorwedd ar yr hen fainc oer yna i farw, dyma i fy ymyl fachgen hardd yr olwg, a chusanodd fy ngwefus oer. Yr wyf yn teimlo y cusan byth er hyny fel pe bae yn llosgi fy ngwefusau—dyna chi ryfedd."
"Ac yr oeddych yn ei adnabod?
Oeddwn. Gwelsoch fi yn agoryd yr Album hwnnw yn nhŷ Ann Jones?"
"Do," ebai Jarvis, a chofiodd am y gwrid ddaeth i'w gwyneb wrth edrych ar lun Derwyn ynddo.
"Yr oedd gennyf gywilydd, ond nis gallwn wrtho, achos dyna'r waith gyntaf i mi ei weled wedi'r freuddwyd ryfedd, er yr oeddwn wedi ei weled droion o'r blaen, ac wedi cael y fraint ddwy waith beth bynnag o'i wobrwyo ar lwyfan yr Eisteddfod yn y Pentref. Buaswn yn rhoddi llawer pe gellid fy rhyddhau o afael y freuddwyd yna,
Mr. Jarvis. "Y fath freuddwyd ryfedd!"
"Rhaid i chwi beidio meddwl am dani. Fe all eich niweidio."
Rhaid, ond y mae yn fil hawddach rhoddi'r gorchymyn nag ufuddhau iddo Mr. Jarvis. Yr wyf wedi ceisio mil o weithiau ei anghofio-ond-beth bynnag yr wyf yn falch o gael y cyfle i'w hadrodd i chwi Mr. Jarvis. Gwn na fydd i chwi ei hail-adrodd."
Cerddodd y ddau yn ol o'r ystafell ryfedd. Yr oedd yn ben amser i Jarvis fyned ymaith.