Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel).djvu/147

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lenwi fel ei gelwid, a byddai rhan fawr o'r pwll yn gweithio double sift, ond ni ellid wrth hynny, a byddai rhaid dygymod ag ef, er mor anymunol ydoedd i'r bechgyn.

Eisteddai Jarvis ger y tân, a dyna swn Gruffydd Huws yn dod, ac fel ei arfer daethai yr hen ddyn i fewn heb guro, a safai funud wrth y drws.

"Dewch ymlaen Gruffydd Huws," ebai Jarvis.

"Lle ma' Ann Jones?"

"Ar neges, ond dowch ymlaen. Hi ddaw yn y munud, 'nol baco i mi ma' hi Gruffydd Huws." A chyn iddo o'r bron gyrraedd yr aelwyd yr oedd mam Bob yn y tŷ.

"De chi 'di bod yn ddiarth Gruffydd Huws," ebai hi wrtho.

"Braidd—ond wir Ann Jones, 'roeddwn i'n deud wrth Betsan 'cw, mod i yn teimlo yn gas rywsut i ddwad yma. Dene sy'n cyfrif Ann Jones.'

"Edrychodd Ann Jones ar Jarvis."

"Fu neb yn frwnt wrtho chi, ai do Gruffydd Huws? gofynnai Jarvis.

"Brwnt —na nid hynny, —ond de ni yn y Wal ma, er fydd rai pobol yn meddwl yn wahanol am dano ni —yden, 'de ni'n gwybod be sy'n 'i le Mr. Jarvis."

"Mi ddaliai'ch bod chi," ebai Jarvis.

"Ddim yn licio wthio," —yhwanegai yr hen wr.

Chwarddodd Jarvis a balch oedd Ann Jones o weled gwên ar ei wyneb.

"Bod yn cheeky ma fo'n feddwl, Mr. Jarvis," ebe'r fam.

"Dwi'n i 'dallt o, ond dylai Gruffydd Huws, mo'n cosbi ni fel ene Ann Jones."

"Ie, ma' Mr. Jarvis yn licio'ch cwmni chi Gruffydd Huws."