"Dydd Llun, mi fum yn poachio ar Barc Llifon, Ann Jones. Y tro cyntaf yn fy mywyd i mi fod yn poachio, ond peidiwch a deud wrth fy nhad, neu fydd ar ben arna. i."
"Ddaliest ti rwbeth ?" gofynnai Bob.
"Globen o wningen fawr braf Bob." atebai yntau.
"Be neis di efo hi Derwyn?" gofynnai mam Bob.
"Mi ddaru mi danfon hi i hwnnw oedd pia hi Ann Jones, fel y dyla pob dyn gonest neud."
"Be buost ti mor hurt, Derwyn ?" ebe Bob.
"Ia, fase lawer rheitiach i ti cha'l hi ar dy blat Bob, rwy'n cyfadde, ond mi danfonais hi yn ol; ond chafodd hi ddim mynd yn ol heb i mi roi ticet arni hi."
"Lle dalies di hi ?"
"Reit tu ol i'r Plas, Bob."
"Fase raid i ti ddim rhoi ticet arni hi, Derwyn bach. Ma' pawb yn gwbod cystal a tithe ma' gwningen y plas ydi hi, os hynny oedd dy amcan di yn rhoi'r ticet." Yna, trodd y fam at Bob, a gwnaeth iddo newid ei ddillad. Yr oedd wedi eu hestyn yn barod iddo, ar y gadair i'w ymyl.
"Ma' fo'n wiyb, Derwyn," ebai.
"Ma'i drowsus o yn wlyb domen, Ann Jones, hyd at i ystlys o. Fyddi di yn ca'l rhiwmatic fever Bob? Ydi o yn wlyb fel ene trwy'r dydd?"
"Ers y bore, Derwyn; ond mod i ddim yn ca'l amser i glywed o, ond ma' fo'n oer rwan."
"Lase fod ti wedi'i dynnu cyn byta Bob," ceryddai ei fam ef.
"Fyddai yn alright, mi tyna i o rwan," ebai, gan droi ei lygad gwan tywyll oedd fel yn ymsuddo yn ddyfnach o dan