Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel).djvu/154

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi gwaedu yn enbyd, ond dim ond ei goes wedi ei dryllio, ond y fath waedu ofnadwy fel yr ofnai y meddyg yn fawr, a phenderfynodd aros yno tan y boreu, a chai weled Jarvis fel yr addawsai.

"Yr wyf am i chwi gymeryd cwpanaid o lefrith cynnes, a mynd i'ch gwely Ann Jones, a gofyn am yr hyderffydd Ann Jones—mi ddaw Bob—daw,—ei goes sy' wedi ei chael hi."

"Pwy sydd efo fo?"

"Ma Tryfan yn mynd i weld fod o yn iawn, a ma' Nurse Jones, de chwi yn 'nabod Nurse Jones. A mi af finnau yno yn go fore—wir Ann Jones faswn yn mynd ato fo heno i'ch bodloni, ond tyde nhw ddim yn hoffi i neb gymryd gormod o hyfdra. Y mae rheol yr Ysbytty yn go strict ar y pen ene, ond tase fo yn ddrwg iawn, faswn i ddim yma rwan i chi, felly mi awn i orffwys, a rhoi'n gofal —'de chi'n gwybod ar bwy Ann Jones."

Noson heb lawer o gwsg ynddi ydoedd y noson hon yn nhŷ Mam Bob, ond cawsai er hynny fynwes heb yr ofnau dychrynllyd hynny a'i goddiweddai yn oriau cyntaf y nos —wedi cael y newydd drwg i'w thŷ. Erbyn hyn, yr oedd gair Jarvis fel ryw fath o gleddyf yn darnio ac yn dryllio pob ofn fel yr ymosodai arni—ond Jarvis,—nid felly ef. Yr oedd y pryder a welsai ar wyneb Tryfan wedi taro ryw fath o fraw yn ei galon nas gallai ei symud. Ofni bob munud clywed tap ar y drws, ond fel y bu oreu cafodd glywed y cloc yn taro pedwar o'r gloch. Erbyn pedwar yr oedd wedi addo os na byddai galw arno yn gynt.

Gwnaeth fyr ysgafn foreubryd. Yr oedd mam Bob wedi codi o'i flaen, ac ychydig fu'r siarad, dim ond ryw egluro