o'r gloch a chael Bob yn ryw araf-wenu yng nghwmni y Nurse. Cusanodd y fam ef, "Fy machgen," ebai.
"Y mae'n alright i chi Ann Jones, ond buoch yn ffodus i gael y fath un atoch. Rwyf yn deall mae gyda chi y mae Mr. Jarvis yn aros y mae Dr. Tryfan wedi gwneud iddo fynd i'w wely ac aros yma am ychydig ddyddiau. 'Dyw ei gyflwr ddim y peth ddylai fod—y fath un, chwarae teg iddo."
"Y mae geiriau yn fy methu Nurse, ac mae nghalon i rhy lawn."
"Peidiwch a chrio Ann Jones—Bob yn eithaf gwan. Gwn beth ydych yn feddwl, ac mae pobl yn cael eu haddoli am lawer llai peth na'r hyn ma' Mr. Jarvis wedi ei wneud."
"Faswn yn hoffi ei weld."
"Cewch ddod am eiliad bach i'w ystafell yn y munud. Yr ydych yn iawn Bob. Mae 'i lygad o Ann Jones yn lled dda." Edrychodd y Nurse i lygad Bob. "Bydd Bob a mine yn ffrindie i chi."
Gwelodd y fam hynny. "Ydi ma 'i lygad o yn eithriadol siriol Nurse," yna trodd at Bob. "A gwna ditha bopeth ma'r Nurse yn ofyn i ti Bob, i ti ga'l diolch—"'
"Ie, dowch am funud. Bydd yn falch o'ch gweled. Ni cha y Doctor wybod."
Dilynodd mam Bob y Nurse i ystafell Jarvis.
"O! y mae yn cysgu Ann Jones, a rwy'n falch. Roedd y Doctor yn gobeithio yn fawr y caffai gysgu, a chymerwn i mo Llifon am ei ddeffro."
"Mi gaf edrych arno," ebai.
Gwenodd y Nurse arni, canys deallai ddyfnder teimlad