Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel).djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei aeliau llwyd, tra'i wallt yn chwareu yn gydynau cynffonog wedi ei drwsto â chwys llaith, ar ei dalcen gwelw. "A mi fuost yn y Parc yn poachio Derwyn ?" gofynnai.

"Oedd o yn blan gen i ers tipyn Bob."

"Yn Blan?"

"Yn Blan i ddal gwningen a'u danfon hi gyda neges fach i hwnnw oedd pia hi—a mi lwyddais—er 'roeddwn i yn ofni y plan."

"Ma' llygad Derwyn ar Eurwen mi fentra," ebai ei fam. Llythyr i Eurwen oedd o Derwyn, ffor' newydd i ddal—"

"Y fi ddanfon llythyr i Eurwen. Fase mwy o son am dana i, peidiwch a sôn Ann Jones, a phan fydd Derwyn 'isio geneth, fydd raid iddo fo edrych ati i rywle heblaw Plas Llifon."

"Wel, wn i ddim Derwyn bach, 'chos ma' pethe mwy anhebig na hyd yn od hynny yn cymeryd lle, a mi wyr pawb ma' geneth dlos o forwyn oedd nain Eurwen Llifon, a phwy wyr na thry yr olwyn yn ôl, fel bydde mam yn deud."

"Dwi mynd odd ma' y munud ma' os yde chi'n mynd i siarad pethe ffol fel ene Ann Jones. Y munud ma, ond mi na i ddeud i chi sut y bu hi efo'r wningen. Dipyn o experiment smala oedd o gan Derwyn. Fe ddaeth ne wraig o'r Wal 'ma at y drws accw un bore'r wythnos dwytha tan wylo yn hidl. 'Roedd ganddi 'run tamed o fara i'w phlant bach—'run tamed."

Edrychodd Bob a'i fam ar ei gilydd.

"De chi'n nabod hi; ond na'i ddim i henwi hi; ond gorfod i mi fynd o'r golwg i grio. Bob, dene fo i ti, a penderfynais y mynnwn i neud rywbeth drosti—neu drio beth bynnag."