y fam tuag at un oedd megis wedi achub bywyd ei hunig blentyn.
"Ma' 'ne rwun yn dwad dwi'n meddwl ma' Miss Eurwen. Cefais air ar y phone ganddi, ei bod yn dod. Ma' hi wastad. Ac erbyn hyn dyna Eurwen i'r golwg, a thorch o flodau yn ei llaw. Symudodd y ddwy i'w chyfarfod ac at ddrws ystafell Bob.
"Wel Ann Jones bach," ebai Eurwen. Estynodd ei llaw iddi. Nis gallwn lai na dod i weled sut y mae. Byddaf yn trio dod i weld bob un geiff 'i anafu, y fath loes i chi. Sut y mae o?"
"Y mae cystal a'r disgwyl," ebai y Nurse. "Dowch i mewn."
Aethant i fewn at Bob.
"Dim seremoni Nurse," ebai Eurwen, a rhag ei blaen at wely Bob.
"Yr ydych yn well. O! mae'n dda gennyf, er mwyn eich mam. Y fath le yw'r pwll 'ne." Trodd at y Nurse. "Ei goes," ebai y Nurse. A gwaedodd i ormodedd Miss Eurwen. Dyna fu'r anhawster mwyaf, ac oni bae am Mr. Jarvis.
"Pwy?"
"Mr. Jarvis. Mae Bob yn ddyledus i Mr. Jarvis am ei fywyd y tro hwn,—yn rhoddi ei waed iddo."
"Mr. Jarvis."
"Mr. Jarvis, Miss Eurwen."
Edrychodd Eurwen drachefn ar Bob, ac yna i wyneb ei fam. "Dyna rywbeth onide?"
"Ie, gan swyddog ac yn ddieithr yn Llifon Miss Eurwen."